Toglo gwelededd dewislen symudol

Gadewch i ni baratoi ar gyfer Dydd Sadwrn Busnesau Bach

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach drwy barhau i annog pobl i siopa'n lleol.

Bowla Swansea Market

Mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach, a gynhelir ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr, yn ymgyrch llawr gwlad ledled y DU sy'n annog pobl i gefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.

Eleni mae ymgyrch y DU wedi cynnwys pum busnes o Abertawe sy'n arddangos yr amrywiaeth wych a'r egni y mae mentrau bach yn eu cyfrannu at ein strydoedd mawr.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Busnesau bach yw enaid cymunedau ar draws Abertawe. Maent yn creu swyddi i bobl leol ac yn ychwanegu cymeriad a bywiogrwydd at ein strydoedd mawr, felly maent yn haeddu ein cefnogaeth.

"O fusnesau arloesol newydd i'r rheini sydd wedi bod yn gwasanaethu'n cymunedau ers cenedlaethau, mae llawer o bobl yn mwynhau'r cyfleoedd manwerthu a chymdeithasol maent yn eu cynnig yng nghanol y ddinas ac ym mhob rhan arall o Abertawe.

"Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn bwysig iawn i'n busnesau hefyd wrth i'r Nadolig nesáu, felly byddwn yn annog pawb i'w cefnogi cymaint â phosib."

Ychwanegodd, "Bydd ein cynnig teithio ar fysus am ddim dros y Nadolig hefyd yn helpu busnesau ar draws Abertawe drwy annog pobl i fynd ar daith am ddim i leoedd fel Treforys, y Mwmbwls neu Gorseinon i ddod o hyd i fasnachwyr bach, annibynnol y gall fod ganddynt yr anrheg Nadolig berffaith nad yw ar gael yn unman arall."

Mae'r pum busnes yn Abertawe sy'n rhan o Ddydd Sadwrn Busnesau Bach yn cynnwys Cwtsh Hostel, The Retro and Vintage Store yn Arcêd Picton, The Lumberjack Axe Throwing Experience yn Dillwyn Street, XP Gaming Bar yn Sgwâr y Castell a busnes bwyd Bowlaym Marchnad Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Tachwedd 2024