Canmoliaeth i staff y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cyffwrdd â bywydau preswylwyr bob dydd
Mae gwaith gwych gan dimau gwaith cymdeithasol Cyngor Abertawe, o gefnogi'r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau wedi'i ganmol gan Aelodau'r Cabinet.
Mae prosiectau newydd fel y Cwtsh Cydweithio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sef rhwydwaith o Gydlynwyr Ardaloedd Lleol yn rhoi cyngor a chymorth ac sydd hefyd yn helpu i gysylltu pobl â ffrindiau newydd a mentrau fel Lleoedd Llesol Abertawe i gyd yn helpu pobl hŷn a diamddiffyn i wneud yn fawr o'u bywydau.
Ar yr un pryd mae teuluoedd a phobl ifanc ddiamddiffyn yn cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fynd i'r afael â'r problemau maent yn eu hwynebu.
Dywedodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, fod yr heriau yr oedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yn ddigynsail, yn gyntaf gyda'r pandemig a nawr gydag argyfwng costau byw.
Cafwyd canmoliaeth i'w gwaith hefyd gan aelodau o'r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau a amlygwyd yn adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r cyngor.
Meddai Aelod y Cabinet dros Les, Alyson Pugh, "Mae'r adborth cadarnhaol iawn a gawn gan bobl am y Cwtsh Cydweithio - hwb cymunedol lle gall pobl gysylltu â syniadau newydd, diddordebau neu gwrdd a gwneud ffrindiau newydd - yn dangos sut mae mentrau fel hyn yn helpu pobl i gadw'n iach."
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, fod nifer y bobl y mae menter Abertawe'n Gweithio yr adran gwasanaethau cymdeithasol wedi'u helpu wedi dyblu i 3,295 yn ogystal â sicrhau swyddi i bron i 400 drwy'r cynlluniau Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy.