Timau Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymateb i'r her o alw cynyddol am gefnogaeth
Mae timau gwasanaethau cymdeithasol ein dinas yn ymateb i'r her o alw cynyddol am ofal cymdeithasol a chefnogaeth i blant a theuluoedd sy'n agored i niwed yn y cyfnod ar ôl y pandemig.
Yn ôl adroddiad mawr i Gyngor Abertawe, mae pwysau cyfnod COVID-19 yn dechrau lleddfu ond maen cael ei ddisodli gan angen cynyddol am gymorth oherwydd yr argyfwng costau byw a phroblemau eraill.
Dywedodd David Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe, wrth gynghorwyr mewn cyfarfod cyngor llawn ar 5 Chwefror ei bod yn ymddangos bod buddsoddi mewn gweithgareddau atal a threchu tlodi yn cael effaith gadarnhaol, ond bod nifer y bobl sy'n ceisio gwasanaethau cymdeithasol y cyngor yn parhau i gynyddu.
Ac roedd yn rhoi llawer o ganmoliaeth i'r staff, gan ychwanegu: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein timau ymroddedig wedi dangos medr, proffesiynoldeb a gwydnwch anhygoel yn wyneb amgylchiadau digynsail."
Mae Cyngor Abertawe'n gwario tua £160 miliwn y flwyddyn ar wasanaethau sy'n cefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed a'u teuluoedd. Mae adran y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn goruchwylio amrywiaeth o weithgareddau sy'n ceisio codi teuluoedd ac unigolion allan o dlodi, mynd i'r afael ag unigrwydd a thrwy hynny helpu i reoli iechyd meddwl.
Ychwanegodd, "Yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn dangos cymaint o waith eithriadol sy'n cael ei wneud gan staff ar draws yr adran gwasanaethau cymdeithasol. Mae trawsnewid wedi dod yn fusnes fel arfer ar gyfer ein gwasanaethau oherwydd bod anghenion ein cymunedau yn newid mor gyflym.
"Mae problemau'r cyfnod pandemig yn dechrau lleddfu, diolch byth, ond mae problemau gwahanol a newydd sydd angen ein sylw yn dod at ein drws."