Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd - mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd

Bydd digwyddiad hynod boblogaiddYsbrydion yn y Ddinasyn dychwelyd ddydd Sadwrn 26 Hydref.

Spooks In The City

Mae'r digwyddiad blynyddol am ddim hwn yn rhan o ymdrechion parhaus Cyngor Abertawe, lle bynnag y bo modd, i gynnig diwrnodau difyr o safon uchel i deuluoedd sydd naill ai am ddim neu am gost isel.

Eleni mae'r diwrnod o hwyl arswydus yn cael ei gynnal mewn lleoliad newydd yng nghanol y ddinas, sef St David's Place (ger hen siop Iceland, dros bont Bae Copr o Arena Abertawe).

Bydd digonedd o ddifyrrwch dychrynllyd ar y diwrnod gydag adloniant ar thema Calan Gaeaf, cymeriadau a sioeau byw gan ysgolion dawns lleol.

Bydd y diwrnod arswydus, a gynhelir rhwng 11am a 4pm, hefyd yn cynnwys:

  • Perfformiad arbennig wedi'i ysbrydoli gan ffilmiau am 11am i agor Ysbrydion yn y Ddinas 2023.
  • Bydd straeon arswydus ger Trên Bach Bae Abertawe, a fydd wedi parcio ac a fydd wedi'i drawsnewid ar gyfer Calan Gaeaf.
  • Adloniant byw â thema
  • Hwyl a gemau â thema
  • Reidiau difyr am ddim
  • Cyfle i ddysgu dawns boblogaidd ac adnabyddus iawn am 2.30pm gyda pherfformiad torfol i ddilyn am 3pm.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysbrydion yn y Ddinas a'r holl ddigwyddiadau eraill sydd ar ddod ym Mae Abertawe, ewch i: joiobaeabertawe.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Hydref 2024