Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysbrydion yn y Ddinas: Digwyddiad Llwyddiannus Iawn

Cynhaliwyd y digwyddiad mawr disgwyliedig 'Ysbrydion yn y Ddinas', a drefnwyd gan Gyngor Abertawe, ddydd Sadwrn yn St David's Place a chafodd teuluoedd Abertawe eu swyno gan adloniant byw, cystadlaethau arswydus, a gweithgareddau gwyddoniaeth gwallgof.

spooks in the city 2024

Cafodd cyfranogwyr eu cyfareddu gan yr adloniant ymdrochol. Gwnaeth teuluoedd fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a oedd yn addas i blant, gan gynnwys paentio wynebau, gemau a chyfle i dynnu lluniau yn y bwth lluniau Joio, felly roedd rhywbeth at ddant pawb.

Meddai Nicola Williams, preswylydd lleol o Abertawe, "Daethom i'r digwyddiad y llynedd, ac rydym yn falch ein bod wedi dod eto. Mae'n weithgaredd difyr ac am ddim lle gall y plant wisgo i fyny a mwynhau'r cyfnod cyn Calan Gaeaf a hanner tymor."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Roedd Ysbrydion yn y Ddinas yn ddiwrnod allan gwych am ddim i'r teulu, ac rydym yn falch iawn bod pawb wedi'i fwynhau, a'i fod wedi denu cannoedd o bobl i ganol y ddinas.

"Yn ogystal â darparu adloniant diogel, difyr ac am ddim yn y ddinas ar gyfer Calan Gaeaf, mae busnesau lleol wedi elwa o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros y penwythnos.

"Dyma'r digwyddiad cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf wrth i ni geisio gwella bywiogrwydd canol y ddinas yn y cyfnod cyn y Nadolig."

Diolch i gefnogwr Ysbrydion yn y Ddinas, Cynnig Gofal Plant Cymru.

Mae digwyddiadau sydd i ddod yn y ddinas yn cynnwys Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol Abertawe, 'Sioeau Cerdd Gyda'r Hwyr', ar 5 Tachwedd ym maes rygbi San Helen, lle bydd adloniant byw yn dechrau o 5pm, yn ogystal â Gorymdaith Nadolig enwog Abertawe a gynhelir nos Sul 17 Tachwedd yng nghanol y ddinas.

Rhagor o wybodaeth yn croesobaeabertawe.com/ 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Hydref 2024