Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Gwobrau Chwaraeon Abertawe yn ôl

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi bod Gwobrau Chwaraeon Abertawe'n dychwelyd.

Sports Awards logo

Mae tair blynedd wedi bod ers y gwobrau diwethaf - a disgwylir i ddigwyddiad eleni gael ei gynnal yn lleoliad crand Neuadd Brangwyn.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae angen ymroddiad, penderfyniad a llawer o waith caled i gynnal safonau uchel ac fel dinas chwaraeon, hoffem anrhydeddu sgiliau ac ymdrech o'r fath.

"Rydym yn falch o allu dathlu'n pencampwyr yn y ffordd hon, am y tro cyntaf ers 2020."

Bydd y digwyddiad yn rhoi cydnabyddiaeth i unigolion, timau a chlybiau ar draws 13 categori gyda gwobrau a fydd yn cynnwys  person ifanc ysbrydoledig, gwirfoddolwr, hyfforddwr cymunedol a hyfforddwr perfformiad.

Mae categorïau eraill yn cynnwys chwaraewr iau, chwaraewraig iau, tîm ysgol, clwb neu dîm iau a chlwb neu dîm hŷn.

Bydd gwobrau hefyd yn cael eu cyflwyno am annog Abertawe actif ac i chwaraewr y flwyddyn ag anabledd a chwaraewr y flwyddyn.

Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe ar 30 Mawrth yn Neuadd Brangwyn mewn cydweithrediad â Freedom Leisure. 

Bydd enwebiadau'n cau ar 31 Rhagfyr. Mae tocynnau ar werth o fis Ionawr. 

Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com

Llun:Gwobr yn cael ei chyflwyno mewn digwyddiad Gwobrau Chwaraeon Abertawe blaenorol.

 

 

 

 

Close Dewis iaith