Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hwb o £10m ar gyfer ystafelloedd newid a chyfleusterau awyr agored ar draws Abertawe

Disgwylir i ystafelloedd newid chwaraeon, parciau sglefrio a phrosiectau gwella cymdogaethau gael hwb o bron £10m dros y blynyddoedd nesaf, dan gynlluniau a gymeradwywyd gan Gabinet Cyngor Abertawe.

football generic

Bydd buddsoddiad ychwanegol yn y Gronfa Buddsoddi Cymunedol dan arweiniad cynghorwyr yn golygu ei bod yn codi i bron £10m erbyn 2027 ar gyfer gwariant ar brosiectau cymdogaeth sy'n bwysig i bobl leol.

Dan gynigion y cytunwyd arnynt gan y Cabinet, bydd lleoedd newid chwaraeon yn Cwm Level, Trallwn, Ynystawe, Tir Canol, Blaen-y-maes a Bôn-y-maen i gyd yn elwa o gyllid gwerth cyfanswm o £3m.

Yn ogystal â chymorth uniongyrchol gan y cyngor, mae'r cyllid yn cynnwys cymorth grant o amrywiaeth o ffynonellau a £1m posib wedi'i wasgaru dros ddwy flynedd gan Cymru Football Foundation.

Yn ogystal, bydd y rhaglen parciau sglefrio sydd eisoes wedi arwain at agor un yng Nghoed Bach a dau ymgynghoriad arall wedi'u clustnodi ar gyfer Tre-gŵyr ac Ynystawe, yn cael hwb o o leiaf £2.9m erbyn 2027. Mae'r uwchgynllun chwaraeon olwynog yn cynnwys cynigion ar gyfer cyflwyno cyfleusterau fel nad oes unrhyw un yn fwy na chwpl o filltiroedd i ffwrdd o'u cyfleuster agosaf.

Ar ben hynny, bydd cynghorwyr yn gweld y Gronfa Buddsoddi Cymunedol yn cynyddu £1m arall fel y gall aelodau wardiau fuddsoddi mewn ystod eang o asedau lleol fel ailosod llwybrau coetir, offer chwarae ychwanegol a chefnogi mentrau cymunedol, i enwi rhai yn unig.

Mae'r buddsoddiad sy'n agos i £10m yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2024/25 a 2026/27.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, ei fod yn dystiolaeth ychwanegol fod y cyngor yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n bwysig i gymunedau ar draws y ddinas.

Meddai, "Yn ogystal â chyllid wedi'i dargedu fel £8m ar gyfer ardaloedd chwarae ledled ein dinas, mae'r Gronfa Buddsoddi Cymunedol wedi'i llunio fel nad oes unrhyw gymdogaeth yn teimlo ei bod wedi'i gadael ar ôl neu wedi'i hanwybyddu pan ddaw at y pethau bach sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Ychwanegodd, "Mae cynghorwyr mewn sefyllfa unigryw i wybod pa fath o brosiectau a mentrau ar raddfa fach sy'n digwydd yn eu hardal sy'n haeddu hwb gan y cyngor.

"Drwy roi hwb i gynlluniau cyllideb gymunedol cynghorwyr i bron £4m yn y cyfnod rhwng 2024/25 a 2026/27 byddwn yn gallu sicrhau bod yr arian yn mynd yn bell iawn, gan wneud gwahaniaeth ar draws Abertawe."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mai 2025