Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe'n Cynnig Sesiynau Chwaraeon Fforddiadwy i Bobl Ifanc dros Hanner Tymor

Yn ystod hanner tymor mis Chwefror bydd Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe'n lansio amrywiaeth gyffrous o wersylloedd chwaraeon fforddiadwy yn Abertawe.

pickleball generic

Mae'r sesiynau hyn, sy'n addas ar gyfer pobl ifanc, yn cynnig y cyfle i roi cynnig ar chwaraeon traddodiadol a modern, gan gynnwys pêl-bicl, beicio mynydd, pêl-fasged a mwy.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae cynnwys pobl ifanc mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn gynnar yn eu bywydau'n annog ffordd iach o fyw ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau yn ystod oedolaeth.

"Mae ein gwersylloedd fforddiadwy a hwyl yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc archwilio amrywiaeth o chwaraeon efallai nad oeddent wedi ystyried cymryd rhan ynddynt yn y gorffennol..."

Amserlen Gwersylloedd Hanner Tymor:

Gwersyll Aml-gampau (8-14 oed) | Canolfan Hamdden Llandeilo Ferwallt | 24 Chwefror 10:00-15:00 | £15

Diwrnod cyffrous o chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged, pêl-bicl a chyfeiriannu. Rhaid cadw lle (01792) 235040

Gwersyll Us Girls (8-14 oed) | Canolfan Hamdden Pen-lan  | 25 Chwefror 10:00-15:00 | £7.50

Chwaraeon, gweithgareddau ffitrwydd a gweithdai gwell iechyd yn arbennig i ferched. Rhaid cadw lle (01792) 588079

Beicio Mynydd (11-14 oed) | Dyffryn Clun | 26 Chwefror 10:00-12:00 ac 13:00-15:00 | £5

Anturiaethau beicio mynydd cyffrous dan arweiniad arweinwyr beicio mynydd profiadol. Rhaid cadw lle https://loom.ly/uotYWfk

Gwersyll Gemau Stryd (8-14 oed) | Canolfan Hamdden Cefn Hengoed | 27 Chwefror 10:00-15:00 | £7.50

Chwaraeon trefol difyr i bawb gan gynnwys tennis bwrdd, pêl-foli a mwy. Rhaid cadw lle (01792) 798484.

I gael rhagor o wybodaeth am y Tîm Chwaraeon ac Iechyd a'r amrywiaeth lawn o gyfleoedd sydd ar gael, ewch i www.abertawe.gov.uk/chwaraeonaciechyd

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Chwefror 2025