Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn atal gwasanaethau anhanfodol ar gyfer 19 Medi

Bydd Cyngor Abertawe yn atal pob gwasanaeth anhanfodol ddydd Llun 19 Medi i nodi Angladd Gwladol y diweddar EM y Frenhines.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Mae'r diwrnod yn ŵyl banc ac mae llawer o gyflogwyr a manwerthwyr mawr y wlad wedi cyhoeddi y byddant yn cau am y diwrnod.

Bydd holl leoliadau'r cyngor gan gynnwys Neuadd y Ddinas a'r Ganolfan Ddinesig ynghyd â Theatr y Grand, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a chanolfannau cymunedol ar gau i'r cyhoedd. Bydd Marchnad Abertawe ar gau.

Bydd yr holl ysgolion ar gau am y diwrnod.

Bydd casgliadau sbwriel dydd Llun yn cael eu gohirio. Felly, bydd yr holl gasgliadau gwastraff yn digwydd ddiwrnod yn hwyr drwy gydol yr wythnos gan olygu y cesglir sbwriel dydd Llun ar ddydd Mawrth, hyd at gasgliadau arferol dydd Gwener yn cael eu gwneud ddydd Sadwrn. Yna bydd casgliadau'n dychwelyd i'r drefn arferol.

Bydd canolfannau ailgylchu'r cyngor hefyd ar gau i'r cyhoedd ddydd Llun 19 Medi.

Fodd bynnag, bydd gwasanaethau hanfodol yn y gwasanaethau cymdeithasol megis gofal preswyl a gofal cartref yn parhau, ynghyd â gwasanaethau gofal dydd pwysig lle bo'r angen.

Bydd amlosgiadau a chladdedigaethau a drefnwyd ar gyfer dydd Llun yn parhau.

Bydd Gorsaf Fysus Abertawe'n aros ar agor, ond gall gweithredwyr bysus unigol newid eu hamserlenni arferol yn unol â'r ŵyl banc, felly cynghorir teithwyr i wirio cyn cynllunio teithiau.

Bydd yr holl ddigwyddiadau a gynlluniwyd gan y cyngor yn ailddechrau'r wythnos hon, gan gynnwys ras 10k Abertawe y penwythnos hwn, ond bydd unrhyw ddigwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer dydd Llun 19 Medi yn cael eu gohirio.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Ymunwn â'r wlad i alaru dros farwolaeth y diweddar EM y Frenhines Elizabeth II.

"Fel arwydd o barch, bydd y cyngor yn cau gwasanaethau anhanfodol ddydd Llun 19 Medi i nodi angladd y diweddar EM y Frenhines ac rydym yn gofyn i'r cyhoedd fod yn ymwybodol y bydd y mwyafrif helaeth o'n gwasanaethau ar gau am y dydd.

"Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu a bod ein ffyrdd a'n gwasanaethau trafnidiaeth yn parhau i weithredu.

"Bydd holl ddigwyddiadau'r cyngor yn Abertawe yn ailgychwyn yr wythnos hon, ac eithrio dydd Llun nesaf, sy'n rhoi cyfle i drefnwyr a chyfranogwyr gynllunio."

Er y bydd y Ganolfan Ddinesig ar gau fel arall, bydd Llyfr Cydymdeimlad Abertawe ar gael yno i bobl ei lofnodi ddydd Llun 19 Medi.

 

Close Dewis iaith