Toglo gwelededd dewislen symudol

Stondinau masnach Sioe Awyr Cymru 2025

Bydd y Sioe Awyr yn dychwelyn i'r awyr dros Fae eiconig Abertawe ar 5 - 6 Gorffennaf 2025. Bydd yn cynnwys rhai o'r timau arddangos mwyaf a gorau yn y byd Sioeau Awyr, 2 km o arddangosiadau ar y tir ac ardaloedd masnachu, a'r cyfan yn erbyn cefndir anhygoedl Bae Abertawe.

Gyda chefnogaeth y lluoedd arfog, mae'r arddangosiadau awyr yn cynnwys awyrennau preifat, rhai masnachol a rhai o'r Llu awyr Brenhinol, y Fyddin a'r Llynges ynghyd ag arddangosfeydd ar y ddaear. Rydym yn chwilio am stondinau masnach priodol i arddangos eu cynnyrch ar hyd y llinell arddangos.

Mae'r cyfle masnachu unigryw hwn yn cynnwys y manteision canlynol:

  • Sioe Awyr Fwyaf Cymru - https://www.walesnationalairshow.com/cy/.
  • Cwrdd â miloedd o ddarpar gwsmeriaid newydd.
  • Lansio neu arddangos eich brand / cynnyrch.
  • Cyfle gwerthu gwych.
  • Cyfle posib i gasglu data.

Am gyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad hwn, llenwch y ffurflen gais ar-lein isod, ynghyd â'ch asesiad risg tân (Word doc, 211 KB) y bydd angen i chi ei lanlwytho gyda'ch cais. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth hefyd o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (isafswm o £5 milliwn) hefyd, a chynnwys ffotograff o'ch arddangosfa.

Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin.


Yn newydd ar gyfer 2025, rydym yn gyffrous i fod yn cynnig ceisiadau masnach ar gyfer ein Marchnad Fasnach Leol newydd yn ardal y Ganolfan Ddinesig.

Mae hwn yn ofod cyffrous, newydd sy'n arddangos masnachwyr lleol o Abertawe am bris gostyngol iawn (dim masnachwyr bwyd na diod yn ddrwg gennym). Bydd masnachwyr yn y Farchnad Fasnach Leol yn cael gazebo 3x3 wedi codi i arddangos eu cynnyrch / gwasanaethau i gynulleidfa enfawr yn y digwyddiad rhad ac am ddim mwyaf yng Nghymru.

Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer yr ardal hon fod wedi'u cofrestru ac yn masnachu yn Abertawe.

Darperir mannau Masnach Lleol gan Gyngor Abertawe gan ddefnyddio gazebos 3x3 lliwgar gyda 3 ochr, pris stondin yw £175 yn unig ar gyfer y ddau ddiwrnod digwyddiad llawn masnachu.

Gwnewch gais ar-lein am stondin Gwnewch gais ar-lein am stondin fasnach

Rheoliadau ar gyfer masnachwyr ac arddangoswyr

Rheoliadau ar gyfer masnachwyr ac arddangoswyr.

Gwnewch gais ar-lein am stondin fasnach

Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Mawrth 2025