Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun a Strategaeth Datblygu Lleol GGLlPBA

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe (GGLlPBA) yn bartneriaeth strategol annibynnol, sy'n edrych ar y materion tymor hir, eang sy'n wynebu arfordir Cymru a dyfroedd y glannau.

Bwriad GGLlPBA yw cynnal gweledigaeth gref wrth symud ymlaen ar gyfer Bae Abertawe.

"Erbyn 2020, hoffem weld bod diwydiannau pysgota a'r rhai cysylltiedig yn llwyddiannus, yn gynaliadwy ac yn economaidd hyfyw, yn ymwybodol o'u treftadaeth ac mewn sefyllfa dda i ateb heriau'r presennol a'r dyfodol."

Sefydlwyd GGLlPBA yn 2012 ac mae'n cynnwys aelodau o'r sectorau cyhoeddus, elusennol a phreifat gan gynnwys awdurdodau lleol, pysgotwyr, busnesau masnachol a'r sectorau amgylcheddol, hamdden, hanesyddol, arforol, busnes a thwristiaeth.

Cynhelir tîm craidd GGLlP Bae Abertawe gan Gyngor Abertawe, yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe. Mae Hyrwyddwr GGLlPBA yn gweithio gydag aelodau'r GGLlP er mwyn cynnal  prosiectau a darparu gwybodaeth berthnasol a chyfoes.