Mwy na 65,000 o brydau wedi'u gweini yn ystod gwyliau haf yr ysgol
Mae mwy na 65,000 o brydau am ddim wedi cael eu gweini i blant a phobl ifanc fel rhan o gefnogaeth Cyngor Abertawe i deuluoedd yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
Trefnodd y cyngor fod £250,000 ar gael i brosiectau a helpodd i fwydo plant a phobl ifanc yn ystod y chwe wythnos i ffwrdd o'r ysgol.
Dywedodd grwpiau ac elusennau ei fod wedi bod yn llinell fywyd i deuluoedd ac wedi atal pobl ifanc rhag bod yn newynog.
Roedd pob un o'r 43 cais am gyllid yn llwyddiannus ac roedd 37 o grwpiau a sefydliadau gwahanol wedi gweini 66,000 o brydau'n fras neu wedi darparu talebau bwyd.
Roedd y fenter newydd yn ystod y gwyliau wedi ffurfio'r pecyn cymorth mwyaf y mae'r cyngor erioed wedi'i roi ar waith i helpu teuluoedd a oedd hefyd yn cynnwys gweithgareddau am ddim a chyda chymhorthdal yn ogystal â bysus am ddim ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn dydd Sul a dydd Llun.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Rwy'n falch bod Cyngor Abertawe wedi gallu chwarae ei ran wrth gefnogi teuluoedd yr haf hwn a hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid am eu gwaith caled."