Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwynhewch Haf Llawn Hwyl yn Abertawe

Mae Cyngor Abertawe'n falch iawn o ddatgelu ei raglen 'Haf o Hwyl' 2025, sy'n addo tymor cyffrous sy'n llawn digwyddiadau, atyniadau a gweithgareddau i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau.

Wales Airshow

O ddigwyddiad cyffrous Sioe Awyr Cymru a cherddoriaeth fyw ym Mharc Singleton i atyniadau sy'n addas i'r teulu a thrysorau diwylliannol, mae Abertawe'n barod i fod y cyrchfan gorau'r haf hwn.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae Abertawe'n dod yn fyw yn yr haf, ac rydym yn falch o gynnig rhaglen amrywiol sy'n dangos y gorau o ddiwylliant, arfordir ac ysbryd cymunedol ein dinas.

"Mae digwyddiadau mawr fel Sioe Awyr Cymru ac IRONMAN 70.3 yn denu miloedd o ymwelwyr i Abertawe, ac mae'n cynyddu ein proffil ac yn fuddiol i dwristiaeth a busnesau eraill wrth i bobl wario miliynau o bunnoedd.

"Ynghyd â ffigyrau diweddar sy'n dangos bod twristiaeth yn werth mwy na £650m y flwyddyn i'r economi leol, mae'n profi bod y cyngor yma i bobl Abertawe ac ymwelwyr fel ei gilydd.

"Does dim lle gwell i greu atgofion bythgofiadwy gyda theulu a ffrindiau."

Mae digwyddiadau mawr i gadw llygad amdanynt yn cynnwys:

·       Sioe Awyr Cymru, Bae Abertawe: 5 a 6 Gorffennaf

·       IRONMAN 70.3 Abertawe: 13 Gorffennaf

·       Gŵyl Canu Gwlad Campfire, Parc Singleton: 20 Mehefin

·       Gŵyl Beatmasters, Parc Singleton: 21 Mehefin

·       Gŵyl We Love It, Parc Singleton: 22 Mehefin

·       Sinema Awyr Agored, Cae Lacrosse, 26 a 27 Gorffennaf

·       Theatr Awyr Agored,Castell Ystumllwynarth: 13 a 14 Awst

·       Amplitude, Amffitheatr: 16 ac 17 Awst

·       Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, SA1 Abertawe: 4 - 7 Medi

·       Ras 10k Bae Abertawe Admiral, Bae Abertawe: 14 Medi

Gall teuluoedd fwynhau atyniadau am ddim a chost isel, gan gynnwys:

·       Lido Blackpill: mwynhewch hwyl yr haf ym mhwll hwyl ym Mae Abertawe sy'n berffaith i blant bach.

·       Golff gwallgof: ewch i Erddi Southend neu Lyn Cychod Singleton am rownd unigryw o golff.

·       Castell Ystumllwynarth: archwiliwch ei ystafelloedd a'i ragfuriau i ddarganfod ei hanes canoloesol a straeon o'r gorffennol.

·       Llyn Cychod Singleton: mae ganddo fwy o elyrch, dreigiau ac uncyrn nag sydd gan 'Swallows and Amazons', ond mae'r pedalos hyn hefyd yn berffaith ar gyfer anturiaethau anhygoel. Gallwch hefyd fynd i weld ein dinosoriaid newydd.

·       Trên Bach Bae Abertawe: dewch ar y trên bach i fwynhau taith olygfaol ar hyd y prom.

 

Archwiliwch ddiwylliant cyfoethog yn Abertawe yn y canlynol:

·       Canolfan Dylan Thomas: cymerwch gip ar arddangosfa 'Dwlu ar y Geiriau', sy'n trafod hanes, gwaith ac etifeddiaeth Dylan.

·       Oriel Gelf Glynn Vivian: ewch i oriel gelf gyffrous ac ysbrydoledig Abertawe gyda'i harddangosfa ddiweddaraf, Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain.

·       Theatr y Grand Abertawe: mae theatr hirhoedlog y ddinas yn cynnal comedi, sioeau, cerddoriaeth a drama.

·       Neuadd Brangwyn: mae'n gartref i gyngherddau a digwyddiadau rhagorol.

·       Amgueddfa Abertawe: dyma'r amgueddfa hynaf yng Nghymru lle gallwch ddarganfod hanes Abertawe, ei phobl a'i lleoedd a gweld trysorau diddorol, gan gynnwys mymi.

·       Llyfrgelloedd Abertawe: mae'n dathlu 150 mlynedd o wasanaeth gyda digwyddiadau a digon o lyfrau i'w benthyca a'u darllen.

I weld y rhaglen lawn a diweddariadau, ewch ar-lein yn: croesobaeabertawe.com neu @joioabertawe ar gyfryngau cymdeithasol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mehefin 2025