Sut i fod yn aelod o GGLlPBA
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno cynrychioli'r sector pysgota a dyframaethu y mae'n bosib yr hoffent fod yn rhan o'r GGLlP a dod â'u harbenigedd mewn pwnc penodol i'r grŵp.
Fel aelod gwirfoddol o'r GGLlP, byddwch yn:
- datblygu dealltwriaeth fanwl o Strategaeth Datblygu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe 2017-2020 ac yn gweithio gyda hyrwyddwr GGLlPBA i'w hadolygu a'i diweddaru, gan sicrhau ei bod yn berthnasol.
- cymryd ymagwedd ragweithiol tuag at glustnodi cyllid ar gyfer blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn y strategaeth.
- gweithio gydag aelodau eraill o GGLlPBA i benderfynu ar y cynllun gwaith lleol a pha brosiectau neu weithgareddau i fuddsoddi ynddynt.
- gallu mynd i gyfarfodydd rheolaidd i gefnogi'r gweithgareddau uchod.
Beth gall y GGLlP ei wneud i chi?
- cynnwys rhanddeiliaid yn effeithiol
- cynllunio a darparu prosiectau blaengar a chymryd rhan yn holl brosiectau'r GGLlP
- grymuso cymunedau i fynd i'r afael â materion arfordirol sy'n effeithio arnynt
- darparu deunydd addysgol i ysgolion, busnesau a chymunedau
- galluogi cyfleoedd rhwydweithio trwy gynadleddau a digwyddiadau
- gweithio'n effeithiol ar faterion/gyfleoedd ar gyfer yr arfordir gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd ein haelodau i gyflwyno canlyniadau
- hwyluso datrys gwrthdaro ar faterion arfordirol
- derbyn yr wybodaeth arfordirol a morol ddiweddaraf
- bod yn fwy gwybodus am benderfyniadau ar y polisi
- cwrdd â phobl eraill yn y sectorau arforol mewn lleoliad diduedd
- rhannu gwybodaeth ac arferion da
- caiff eich syniadau eu clywed a'u trafod yn drylwyr yn ystod ein cyfarfodydd
- cydweithio
- derbyn cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisi Ewropeaidd a'r DU.
Sut rydw i'n gwneud cais i fod yn aelod o GGLlPBA?
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw cwblhau Ffurflen Mynegi Diddordeb a'i dychwelyd i GGLlP Bae Abertawe.
Addaswyd diwethaf ar 19 Ionawr 2022