Wrth i'r Nadolig gyrraedd, dyma'r holl bethau y gallwch eu gwneud i fwynhau holl hwyl yr ŵyl yn Abertawe
Mae'r Nadolig yn gyfnod hynod boblogaidd bob amser, ac mae Abertawe'n rhoi cyfle i chi fwynhau holl hwyl yr ŵyl bob blwyddyn. Mae calendr y Nadolig yn cynnwys sawl atyniad am ddim a rhad i'w mwynhau gan bawb.
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau'n cynnig ymdeimlad o bentref Alpaidd yn y ddinas a bydd ar agor ym Mharc yr Amgueddfa tan 5 Ionawr. Mae llwybr llusernau'r Nadolig, lle cewch y cyfle i fwynhau'r goleuadau a thynnu hunlun gyda'r teulu, yn atyniad hudol newydd ar gyfer 2024.
Bydd Marchnad y Nadolig yng nghanol y ddinas ar agor tan 22 Rhagfyr. Mae miloedd o opsiynau am roddion hefyd ar gael yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant, Marchnad Dan Do Abertawe a siopau canol y ddinas.
Bydd Jack and the Beanstalk yn cael ei berfformio yn Theatr y Grand Abertawe o 7 Rhagfyr tan 5 Ionawr, lle bydd un o hoff ddarlledwyr y genedl, Scott Mills, ar y llwyfan.
Bydd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn agor drysau'r castell ac yn eich gwahodd i ymuno â nhw yn y castell i ganu ar y cyd ar 14 Rhagfyr yn ystod digwyddiad rhyfeddol Carolau yn y Castell.
Yn ystod mis Rhagfyr, cewch gyfle i fwynhau Carols & Capers, a fydd yn cynnwys yr enwogion canu gwerin Maddy Prior a The Carnival Band; bydd y cwmni theatr Dyad yn ail-greu A Christmas Carol gan Dickens yn fyw ar y llwyfan; a bydd y sioe ryngweithiol Roald Dahl and The Imagination Seekers yn cyflwyno chwedlau anhygoel Dahl.
Ceir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a chynhelir Marchnad Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Gaeaf yno o 7 i 8 Rhagfyr. Hefyd, bydd llu o nosweithiau cwis, Llwybr Gaeaf Mawr yr Amgueddfa, amser stori arbennig a gweithdai Nadoligaidd.
Mae Amgueddfa Abertawe'n cynnig arddangosfeydd a digwyddiadau am ddim drwy gydol y mis, gan gynnwys gweithdy creu torchau (tocynnau'n unig) ar 1 Rhagfyr.
Bydd arddangosfeydd Out of this World gan Heather Wilson, Voice Figures gan Margaret Watts Hughes, a 360° gan Skin Phillips ar agor yn Oriel Gelf Glynn Vivian tan 5 Ionawr.
Mae Canolfan Dylan Thomas yn cyflwyno llwybr y Peli Eira, atyniad newydd ar gyfer 2024 sydd ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, ac mae 17 llyfrgell gyhoeddus Abertawe'n cynnal digwyddiadau dros y Nadolig am ddim.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae llawer o bethau gwych yn digwydd dros y Nadolig i'r holl deulu.
Bydd ein menter bysus am ddim yn helpu pawb i fynd hwnt ac yma ar benwythnosau ac yn ystod wythnos y Nadolig eleni. Felly, rydym yn falch o helpu mewn ffyrdd ymarferol a difyr yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig a'r tu hwnt.
"Mae goleuadau'r Nadolig a'r ddwy goeden Nadolig yng nghanol y ddinas yn atyniadol iawn ac maent yn rhoi croeso gwych i siopwyr a busnesau fel ei gilydd. Mae Marchnad y Nadolig yn atyniad traddodiadol sy'n dychwelyd i Stryd Rhydychen hefyd.
"Mae'r Nadolig yn Abertawe'n well nag erioed ac rydym yn gobeithio y bydd yn hybu busnesau a chymunedau ledled y ddinas."
Ble bynnag rydych yn treulio'r gwyliau, mae gan Abertawe bopeth y mae ei angen arnoch i fwynhau Nadolig bythgofiadwy.
Ceir rhagor o wybodaeth am Joio'r Nadolig yn Abertawe drwy fynd i'r wefan croesobaeabertawe.co