Faint mae'n rhaid i mi ei dalu ar gyfer Treth y Cyngor?
Mae swm treth y cyngor mae'n rhaid i chi ei dalu'n seiliedig ar werth band prisio Treth y Cyngor y mae'ch eiddo'n cael ei roi ynddo a nifer yr oedolion sy'n byw yno.
Codir treth y cyngor ar sail ddyddiol ac anfonir bil blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gan ddechrau ar 1 Ebrill.
Bydd yn cymryd yn ganiataol y bydd eich amgylchiadau ar 1 Ebrill yn aros yr un peth am y flwyddyn gyfan. Os bydd eich amgylchiadau'n newid yn ystod y flwyddyn, caiff y tâl ei addasu i adlewyrchu hyn.
Defnyddiwch ein bil rhithwir i gael gwybod am y taliadau ar gyfer eiddo gwahanol yn Abertawe.
Mae tâl Treth y Cyngor yn amrywio ychydig o ward i ward gan ddibynnu a godir treth gan gyngor cymuned yn eich ward.
Sut mae f'eiddo'n cael ei brisio?
Gwneir y penderfyniad ar ba fand prisio Treth y Cyngor y dylid rhoi'ch eiddo ynddo gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac mae'n seiliedig ar ei werth cyfalaf ar 1 Ebrill 2003. Hyd yn oed os cafodd ei adeiladu ar ôl y flwyddyn honno, caiff ei brisio gan ddefnyddio gwerthoedd 2003.
Rhoddir pob eiddo mewn un o naw band prisio.
Llywodraeth Cymru sy'n gosod bandiau Treth y Cyngor ar gyfer Cymru ac mae'r tabl isod yn dangos ystod bresennol y gwerthoedd ar gyfer pob band:
- Band A = Dan £44,000
- Band B = £44,001 to £65,000
- Band C = £65,001 to £91,000
- Band D = £91,001 to £123,000
- Band E = £123,001 to £162,000
- Band F = £162,001 to £223,000
- Band G = £223,001 to £324,000
- Band H = £324,001 to £424,000
- Band I = £424,001 ac yn uwch
Sut gallaf wirio fy mod yn y band cywir?
Caiff y band mae'ch eiddo wedi'i roi ynddo ei ddangos ar eich bil.
Chwirlio rhestr brisio'r Dreth y Cyngor ar GOV.UK - mae hon yn cynnwys band pob eiddo yn y wlad.
Os yw'ch eiddo wedi'i addasu ers 2003, neu os caiff ei addasu, gallai fod wedi effeithio ar y band ac, os caiff yr eiddo ei werthu, efallai y caiff ei roi mewn band gwahanol. Bydd y prynwr wedyn yn atebol am y tâl newydd.
I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol ac i gael gwybod am apelio yn erbyn eich band, ewch i wefan Apeliadau Treth y Cyngor y Llywodraeth.