Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio porth tai cyngor digidol newydd yn Abertawe

Gall tenantiaid y cyngor yn Abertawe bellach reoli amrywiaeth o wasanaethau sy'n ymwneud â'u cartref gan ddefnyddio eu ffôn clyfar.

council housing 1

Mae Cyngor Abertawe wedi datblygu porth digidol newydd y gall tenantiaid ei gyrchu ar-lein, drwy ffôn clyfar a thabled.

Bydd y gwasanaeth 'Fy Nhai' newydd yn rhoi'r dewis i bob tenant y cyngor dalu ei rent gan ddefnyddio'r porth.

Gall tenantiaid hefyd gadw llygad ar eu taliadau rhent a fydd hefyd yn eu helpu i reoli eu cyfrif rhent.

Bydd hefyd yn rhoi'r dewis i ddefnyddwyr roi gwybod am broblemau yn eu cartref yn ogystal â chadw golwg ar atgyweiriadau sydd wedi'u cwblhau'n flaenorol.

Mae'r gwasanaeth digidol diweddaraf wedi'i ddatblygu fel dull ychwanegol i denantiaid gadw mewn cysylltiad â Gwasanaeth Tai'r cyngor. Gall hefyd arbed tenantiaid rhag gorfod ffonio neu ymweld â'u Swyddfa Dai Ardal agosaf os yw'r ffordd hon yn haws iddynt.

Er mwyn defnyddio Fy Nhai, bydd angen i denantiaid fynd i wedudalen y porth, creu cyfrif gan ddefnyddio eu manylion tenant ac unwaith y bydd yn cael ei awdurdodi, byddant yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau gwahanol.

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae gwneud yn siŵr bod tenantiaid yn gallu cysylltu â ni a chael mynediad at wasanaethau sy'n ymwneud â'u cartref yn hanfodol.

"Mae'r porth digidol newydd hwn yn gam gwych ymlaen o ran pa mor gyflym y gallwn ryngweithio â thenantiaid, boed hynny mewn perthynas â mater yn ymwneud â rhent neu er mwyn rhoi gwybod am broblemau y gallai tenant fod yn eu profi gartref.

"Mae gan fwyafrif helaeth o'n preswylwyr bellach fynediad at dechnoleg ddigidol, yn enwedig ar eu ffôn clyfar, felly mae hwn yn gyfle gwych i denantiaid ymuno a rhoi cynnig ar ffordd newydd o gadw mewn cysylltiad â'r cyngor.

"Nid yw hyn yn golygu ein bod wedi rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaethau yn y ffordd fwy traddodiadol - mae hyn yn ffordd o roi rhagor o opsiynau i denantiaid gyflawni pethau."

I gofrestru ar gyfer Fy Nhai, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/fynhai

Gall tenantiaid gysylltu â'u Swyddfa Dai Ardal os oes angen unrhyw cymorth arnynt wrth gofrestru.

 

Close Dewis iaith