Toglo gwelededd dewislen symudol

Theatr y Palace

Mae gwaith i roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol Theatr y Palace bellach wedi'i gwblhau.

Palace Theatre.

Palace Theatre.

Rydym wedi trosglwyddo'r adeilad sydd ar y Stryd Fawr i Tramshed Tech o Gymru, a fydd yn gweithredu'r adeilad pan fydd yn ailagor ym mis Tachwedd 2024.

Mae adeilad rhestredig Gradd 2 Theatr y Palace, sydd wedi'i adfer mewn modd sensitif, yn cynnwys gweithleoedd amlbwrpas dros chwe llawr gan gynnwys mannau cydweithio, ystafelloedd cyfarfod, swyddfeydd a stiwdios podlediadau y bwriedir iddynt i gefnogi busnesau technolegol, digidol a chreadigol.

Mae llwyfan y theatr hanesyddol wedi'i gadw fel lle ar gyfer digwyddiadau ac ardal gydweithio, ac mae siop goffi annibynnol Tramshed Tech, sef 'Da Coffi' ar y llawr gwaelod.

Mae'r siop goffi hon ar agor i'r cyhoedd.

Mae'r gwaith i adfer yr adeilad 136 o flynyddoedd oed wedi cael ei arwain gan Gyngor Abertawe a'i gefnogi gan gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Cyflawnwyd y prosiect gan R&M Williams, GWP Architecture, Hydrock a TC Consult.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2025