Abertawe yn gwneud cynnydd ar uchelgeisiau sy'n cyfrif
Dywedwyd wrth Gyngor Abertawe mewn cyfarfod fod cryn gynnydd yn cael ei wneud ar gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Abertawe wyrddach, mwy ffyniannus a bywiog ar gyfer yr 21ain ganrif.
Gan adeiladu ar straeon llwyddiant fel Arena Abertawe, buddsoddiad o £150m mewn ysgolion newydd a £6.5m ar gyfer ardaloedd chwarae ym mhob cymuned a'r fargen newydd gwerth £750m ar gyfer canol y ddinas, disgwylir i'r gwaith o drawsnewid y ddinas gyflymu yn y blynyddoedd i ddod.
Ac ar ôl haf gwych yn Abertawe yn llawn digwyddiadau chwaraeon, cerddoriaeth a diwylliannol rhyngwladol o fri, mae'r cyngor yn cymryd camau i gefnogi preswylwyr y mae gwasanaethau'r cyngor yn cyffwrdd â'u bywydau bob dydd.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, wrth y Cyngor Llawn ar 5 Chwefror y cafwyd cynnydd eisoes ar brosiectau fel adnewyddu glan môr y Mwmbwls a chyflwyno atyniadau cyffrous newydd i ymwelwyr fel canolfan ymwelwyr newydd Penderyn yn yr Hafod.
Addawodd hefyd na fydd unrhyw un o gymunedau'r ddinas yn cael ei gadael ar ôl diolch i filiynau ar filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad mewn gwelliannau ffyrdd, gwasanaethau glanhau strydoedd ychwanegol a chyfleusterau cymunedol gwell, ynghyd â mwy o gymorth i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd a'r rheini sy'n ddigartref.
Meddai, "Mae Abertawe bob amser wedi bod yn ddinas o uchelgais ond mae hi bellach yn ddinas cyflawni - yn seiliedig ar flaenoriaethau pobl."
Dywedodd y Cynghorydd Stewart, ers eu lansio ym mis Mehefin 2022, fod 71% o ymrwymiadau polisi wedi'u cwblhau, mae 24% ar y trywydd iawn ac mae'r gweddill wedi'u targedu ar gyfer gweithredu pellach.