Themâu ac amcanion allweddol GGLlPBA
O'r canfyddiadau a nodwyd fel rhan o'r Astudiaeth Ymchwil i'r Diwydiant Pysgota yn 2015 a'r adborth o'r ymgynghoriad â rhanddeiliaid ar ddechrau mis Medi 2016, cafwyd cyfres o faterion allweddol i'r amlwg.
Mae'r materion allweddol hyn wedi cael eu grwpio yn ôl 5 thema, sydd hefyd yn darparu'r cyd-destun ar gyfer yr amcanion y cytunwyd arnynt gan y GGLlPBA a nodwyd dan Adran 3 sy'n cyd-fynd â'r nodau a'r amcanion a'r amlinellir ym Mlaenoriaeth Undeb 4 Rhaglen Weithredol Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop.
Themâu allweddol
Thema 1: Ychwanegu gwerth, creu swyddi, denu pobl ifanc a hyrwyddo arloesedd ar bob cam o gadwyn gyflenwi cynnyrch pysgodfeydd a dyframaethu.
Amcan 1: Gwella cysylltiadau gyda chynhyrchwyr bwyd lleol eraill a chynhyrchwyr eraill
Amcan 2: Cyflawni cysylltiadau gwell ag ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc i helpu i ddatblygu'r sector
Amcan 3: Cefnogi cyflwyniad prosiectau isadeiledd bach i annog twf cynaliadwy yn y diwydiant
Amcan 4: Creu cyfleoedd i rwydweithio, marchnata a hyrwyddo'r diwydiant lleol, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi.
Amcan 5: Darparu cefnogaeth i roi cynnig ar brosesau newydd neu ychwanegu gwerth at gynnyrch i helpu cwmnïau bach yn y diwydiant pysgota i dyfu.
Thema 2: Cefnogi gwaith arallgyfeirio y tu mewn i bysgodfeydd masnachol neu'r tu allan iddynt, darparu dysgu gydol oes a chreu swyddi mewn pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu.
Amcan 6: Cefnogaeth i fusnesau nodi cyfleoedd dargyfeirio a dysgu sgiliau newydd yn y sector a'r tu allan iddo.
Amcan 7: Darparu cyfleoedd i ddatblygu'r sector twristiaeth sy'n gysylltiedig â physgodfeydd lleol, gan gynnwys 'twristiaeth bysgod', eco-dwristiaeth a chyfleusterau i dwristiaid.
Thema 3: Gwella asedau amgylcheddol pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu a manteisio arnynt, gan gynnwys gweithrediadau i liniaru newid yn yr hinsawdd.
Amcan 8: Nodi a datblygu ffynonellau incwm eraill ar gyfer y diwydiant pysgota, megis ynni adnewyddadwy.
Amcan 9: Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol
Amcan 10: Datblygu agweddau treftadaeth a thwristiaeth y glannau mewn modd cynaliadwy a chytbwys.
Thema 4: Hyrwyddo lles cymdeithasol a threftadaeth ddiwylliannol mewn pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu, gan gynnwys treftadaeth ddiwylliannol pysgodfeydd, dyframaethu ac ardaloedd morol.
Amcan 11: Cefnogaeth i hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol, dyframaethu a diddordebau morol.
Thema 5: Datblygu a llywodraethu adnoddau pysgodfeydd lleol a gweithgareddau morol yn lleol.
Amcan 12: Cynnwys cymunedau a chynrychiolwyr lleol ymhellach er mwyn cefnogi a hyrwyddo'r diwydiant lleol.