Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwefan iechyd meddwl a lles i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe

Lansiwyd gwefan tidyMinds yn haf 2021 i helpu pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe i ddeall unrhyw deimladau negyddol y gallent fod yn eu profi ac i ddod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth gywir.

swansea from the air1

Offeryn ar-lein ar gyfer pobl ifanc, eu teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi yw tidyMinds. Mae'n archwilio materion iechyd meddwl a lles, ac yn cynnig gwybodaeth am sut a ble y gellir dod o hyd i gefnogaeth. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar bobl ifanc rhwng 12 a 19 oed, ond mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth i bobl ifanc o dan 12 a hyd at 25 oed.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth glir a chyson i bobl ifanc, mae tidyMinds hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer gweithwyr proffesiynol a all fod yn ei chael hi'n anodd defnyddio system gymhleth.

Mae tidyMinds yn hwb gwybodaeth ac nid yw wedi'i gynllunio i ddiagnosio problemau emosiynol neu gyflyrau iechyd meddwl

Gallwch gyrchu gwefan tidyMinds yn tidyMinds.org.uk  

Kooth - eich cymuned les ar-lein

Yn ogystal â tidyMinds mae hefyd wasanaeth cwnsela a chefnogaeth rhithwir newydd i bobl ifanc yn ein rhanbarth o'r enw Kooth-  kooth.com  

Bydd plant a phobl ifanc sy'n byw yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yn gallu defnyddio gwasanaeth cwnsela digidol a chymorth iechyd meddwl yn ddienw.

Bydd y gwasanaeth sydd wedi'i achredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, a ddyluniwyd fel cymuned wedi'i diogelu'n llawn a'i chymedroli ymlaen llaw, yn cynnig sesiynau cwnsela un i un dienw gyda chwnselwyr hyfforddedig a chymwysedig llawn ac ymarferwyr lles emosiynol.

Ar ôl mewngofnodi, gall defnyddwyr gyrchu byrddau neges ac ymweld â llyfrgell o gynnwys arddull cylchgrawn hunangymorth a grëwyd gan eu cyfoedion ac arbenigwyr iechyd meddwl.

Mae sesiynau cwnsela yn rhedeg 365 niwrnod y flwyddyn, o ganol dydd i 10pm yn ystod yr wythnos, ac rhwng 6pm a 10pm ar benwythnosau, a gellir eu harchebu ymlaen llaw neu gael mynediad atynt fel sgyrsiau galw heibio, yn seiliedig ar destun.

Does dim trothwyon ar gyfer cefnogaeth a dim rhestrau aros.

Close Dewis iaith