Toglo gwelededd dewislen symudol

Gadewch i ni gadw Abertawe'n daclus dros Ŵyl y Banc

Mae Cyngor Abertawe'n annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a rhoi baw eu cŵn yn y bin neu fynd ag ef adref gyda nhw dros benwythnos Gŵyl y Banc.

litter bin collection

Mae arwyddion sy'n annog perchnogion cŵn i ddefnyddio biniau sbwriel cyffredinol yn ogystal â biniau baw cŵn i gael gwared ar faw eu cŵn wedi'u gosod ar finiau sbwriel mewn parciau, ar draethau ac mewn mannau eraill yn y ddinas.

Dywedodd Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd Cyngor Abertawe, fod hyn mewn ymateb i bryderon cynyddol am faw cŵn sy'n cael ei adael naill ai ar y palmant neu mewn sachau ger biniau.

Meddai Mr Nicholls, "Gyda'r tywydd yn dechrau gwella a Gŵyl y Banc Calan Mai ar ddod, bydd mwy o bobl yn mynd o gwmpas y lle gyda'u hanifeiliaid anwes.

"Er y bydd ein timau parciau a gwrth-sbwriel yn chwarae eu rhan i gadw parciau, traethau a lleoliadau prysur eraill yn rhydd o faw cŵn a sbwriel, rydym yn pwysleisio bod angen i bawb chwarae eu rhan.

"Y llynedd, helpodd ein hymgyrch 'Paid â Thaflu Sbwriel' drawiadol i godi proffil taflu sbwriel a baw cŵn, gyda llawer o bobl yn ymateb yn gadarnhaol iddi.

"Os ydych chi'n mynd o gwmpas y lle'r penwythnos hwn, cynlluniwch ar gyfer mynd â'ch gwastraff picnic ac unrhyw wastraff arall adref gyda chi, yn enwedig os yw'r biniau'n llawn.

Yn yr un modd, os oes gennych gi ac mae'r bin gwastraff cŵn neu sbwriel yn llawn, rhowch wastraff eich ci yn eich sach ddu gartref."

Mae'r cyngor yn gwario oddeutu £2m y flwyddyn ar gadw cymunedau'n lân ac yn daclus ac maent yn ymweld â biniau sbwriel a gwastraff yn rheolaidd, yn enwedig mewn mannau poblogaidd fel parciau, traethau a mannau eraill.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Ebrill 2022