Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid
Abertawe yw'r ail ddinas yn y DU i dderbyn statws Dinas Noddfa a chafodd ei chyhoeddi fel Dinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.
Mae ganddi hanes o groesawu pobl sy'n ceisio dianc rhag rhyfel ac erledigaeth. Mae'n ddinas sy'n ymdrechu i groesawu'r bobl sy'n ceisio dianc rhag trais neu erledigaeth a chynnig lloches iddynt. Mae'n cefnogi, ac yn gyfeillgar i geiswyr lloches a ffoaduriaid ac yn dathlu eu cyfraniad at fywyd yn y ddinas. Yn hanesyddol, mae pobl o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig gwahanol wedi ymgartrefu yn Abertawe.
Rhif cyswllt a llinell gymorth: 01792 636565 (10.00am - 4.00pm dydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer ymholiadau)
Cyfeiriad e-bost: refugeeresettlementteam@abertawe.gov.uk
Mae Cyngor Abertawe'n falch o gymryd rhan uniongyrchol yn y cynlluniau adsefydlu ffoaduriaid canlynol:
- Cynllun Adsefydlu'r DU (unitedkingdom.iom) (Yn agor ffenestr newydd)
- Y Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
- Y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
- Gwasgaru Ceiswyr Lloches
- Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol - Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches
- Cartrefi i Wcráin:
Lansiwyd cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU gan Lywodraeth y DU ar 14 Mawrth 2022. Mae'r cynllun yn dibynnu ar breswylwyr y DU i noddi gwladolyn neu deulu o Wcráin i ddod i fyw gyda nhw yn y DU am gyfnod cychwynnol o chwe mis, gydag opsiwn i ymestyn y cyfnod hwnnw. Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru i fod yn noddwr, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i:
Os ydych chi wedi cofrestru i fod yn noddwr ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth y DU yn prosesu eich cynnig. Bydd Cyngor Abertawe'n cysylltu â chi unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth gan Lywodraeth y DU. Mae preswylwyr Abertawe wedi bod yn hael iawn wrth agor eu drysau ac mae cannoedd o Wcreiniaid wedi cyrraedd Abertawe ac wedi byw gyda noddwyr ers mis Mawrth 2022.
Llinellau cymorth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru: Gall noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth am ddim ar 0808 175 1508 (9.00am - 5.00pm ddydd Llun i ddydd Gwener) neu ffonio Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid Cyngor Abertawe ar 01792 636565
Cymru: Cenedl Noddfa
Mae Cymru'n bwriadu dod yn 'Genedl Noddfa' gyntaf y byd. Mae gweledigaeth Cymru o Genedl Noddfa'n cynnwys y gobaith y bydd pobl sy'n ceisio lloches yn derbyn croeso, dealltwriaeth a dathliad o'u cyfraniad unigryw i fywyd yng Nghymru ym mhob rhan o'r wlad.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Wales: Nation of Sanctuary (cityofsanctuary.org) (Yn agor ffenestr newydd)