Adran dillad ail-law gan ddylunwyr adnabyddus yn Nhrysorau'r Tip wedi'i hehangu
Gall y rheini sy'n frwd dros ddillad cynaliadwy gael cyfle i brynu dillad ail-law gan ddylunwyr adnabyddus yn adran ddillad hoff siop ailddefnyddio Abertawe sydd newydd gael ei hehangu.
Mae siop Trysorau'r Tip Cyngor Abertawe yn Llansamlet, wedi cael ei hehangu a'i hadnewyddu i gynnwys adrannau newydd ar gyfer cynnyrch pren a ailddefnyddiwyd a dillad dylunwyr.
Mae'n golygu y gall siopwyr sy'n ymweld â'r lleoliad poblogaidd yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet ddod o hyd i ddillad ail-law enwau brand sydd wedi'u hadfer yn ofalus, ymhlith llu o fargeinion eraill.
Mae'r brandiau sydd ar werth yn cynnwys Kailio, Next, M&S, Monsoon, Jasper Conran Junior, Made in Italy a Quicksilver.
Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, fod Trysorau'r Tip wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddi ailagor wrth i Abertawe adfer yn dilyn y pandemig.
Meddai, "Mae Trysorau'r Tip yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae'r siop wedi'i hadnewyddu a'i hehangu'n golygu, am y tro cyntaf erioed, ein bod yn gallu creu adran ddillad i bobl sy'n chwilio am fargeinion steilus, gyda'r holl eitemau wedi'u harchwilio, eu golchi, eu sychu, eu stemio a'u trwsio, os oes angen, cyn eu gwerthu."
Meddai'r Cyng. Thomas: "Gall pawb elwa o fenter Trysorau'r Tip am ein bod yn lleihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a gall preswylwyr brynu eitemau o safon am brisiau rhesymol.
"Yn ystod cyfnod lle mae COP26 ar ddod, sef cynhadledd newid yn yr hinsawdd a gynhelir ym Mhrydain yr haf hwn, mae pobl Abertawe'n ein helpu i chwarae ein rhan drwy roi eitemau i siop Trysorau'r Tip."
Mae'r siop ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm bob dydd ac mae'n cynnig amrywiaeth o feiciau, offer gardd ac offer ymarfer corff a chwaraeon.