Apelio am wirfoddolwyr ar gyfer y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig
Bydd Abertawe'n dod ynghyd unwaith eto i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen yn ystod digwyddiad Nadoligaidd arbennig iawn.
Bydd JR Events and Catering, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, yn agor drysau Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth 3 Rhagfyr i weini cinio Nadolig dau gwrs am ddim i bobl yn Abertawe sy'n agored i niwed, yn teimlo'n ynysig neu a all fod yn ddigartref.
Cynhelir y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig rhwng canol dydd a 3pm, a bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o wasanaethau ac elusennau'n darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Ar hyn o bryd, mae mwy o gefnogaeth nag erioed o'r blaen ar gael yn Abertawe i helpu pobl ddigartref neu unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'i bartneriaid i sicrhau y bydd gwely neu lety ar gael i bawb yn Abertawe yn ystod y gaeaf hwn.
I wirfoddoli, cael rhagor o wybodaeth, neu ddarparu gwasanaeth, adloniant neu rodd, cysylltwch â Shannon Williams drwy e-bostio shannon.williams@jr-eventsandcatering.co.uk
www.jr-events.co.uk/together-at-christmas