Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n dathlu rhagoriaeth wrth gyhoeddi enillwyr 2024

Cynhaliwyd Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe ar 14 Tachwedd yn lleoliad cain Neuadd Siôr yn Neuadd y Ddinas. Cydnabu'r seremoni wobrwyo - a drefnwyd gan Gyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Twristiaeth Bae Abertawe a Llywodraeth Cymru - gyflawniadau rhagorol ar draws y sectorau twristiaeth a lletygarwch, gan ddathlu busnesau sy'n helpu i wneud Bae Abertawe yn gyrchfan o'r radd flaenaf.

Rhossili Bay

Gwnaeth y gwobrau anrhydeddu'r goreuon oll mewn categorïau amrywiol, gan ddangos rhagoriaeth ac ymrwymiad Bae Abertawe i ddarparu profiadau penigamp i ymwelwyr. 

Yr enillwyr yn 2024 yw:

  • Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol:Distyllfa Gwaith Copr Abertawe Penderyn
  • Gweithgaredd, Taith neu Brofiad Gorau:Savage Adventures
  • Atyniad Gorau: Oriel Gelf Glynn Vivian
  • Llety Gwely a Brecwast, Tafarn a Thŷ Llety Gorau: Tides Reach Guest House
  • Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau:Greenways of Gower Premier Leisure Park
  • Busnes Gorau sy'n Croesawu Cŵn: Clyne Farm Centre
  • Digwyddiad Gorau: Sioe Awyr Cymru
  • Gwesty Gorau: Delta Hotels Swansea (Marriott)
  • Lle Gorau i Fwyta: Nomad Bar & Kitchen
  • Llety Hunanarlwyo Gorau: Clyne Farm Centre
  • Bro a Byd (Cynaliadwyedd Amgylcheddol): RSPCA
  • Seren Newydd: Megan Rust, Bwyty Beach House

 

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth,

"Mae'r gwobrau hyn yn dathlu ymroddiad a safonau uchel busnesau lleol, gan ategu eu cyfraniad hollbwysig at wneud Bae Abertawe'n gyrchfan o'r radd flaenaf. Mae gweld ymrwymiad o'r fath yn destun ysbrydoliaeth ac rydym yn falch o anrhydeddu'r enillwyr haeddiannol hyn.

"Bydd yr enillwyr bellach yn cael eu hystyried ar lefel ranbarthol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld pwy fydd yn cyrraedd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yng ngwanwyn 2025."

Ychwanegodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Lles,

"Mae Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd yn ein diwydiant twristiaeth lleol, sy'n hollbwysig i'n heconomi a'n cymuned. Yn ogystal â dathlu cyflawniadau busnesau lleol, mae'r gwobrau hyn yn cynnig llwyfan i rannu arferion gorau a gwella profiad ymwelwyr."

Ategodd Stephen Crocker, Cadeirydd Twristiaeth Bae Abertawe, hyn drwy ddweud,

"Mae brwdfrydedd, creadigrwydd a chynaliadwyedd ein gweithredwyr lleol yn eithriadol. Rydym yn falch bod y gwobrau hyn wedi dathlu eu hymroddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal y gwobrau ar ffurf gala ffurfiol eto yn 2026."

Meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, sy'n gyfrifol am dwristiaeth:

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr.

Mae'r profiadau cadarnhaol o safon rydych yn eu darparu ar gyfer eich gwesteion yn cyfrannu'n helaeth at ein hatyniad fel cyrchfan. "Rydym yn falch o gefnogi Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe gan eu bod yn darparu cyfle i gydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn diwydiant sy'n hanfodol i economi Cymru."

Ceir y rhestr gyflawn o enillwyr a rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Tachwedd 2024