Toglo gwelededd dewislen symudol

Traethau

Mae gan Abertawe draethau gwych ar garreg ei drws.

Mae traethau Penrhyn Gŵyr yn enwog am eu harddwch ac mae gan nifer ohonynt dywod euraidd helaeth sy'n ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau megis adeiladu cestyll tywod neu hedfan eich barcut. Mae nifer o chwaraeon dŵr ar gael hefyd megis syrffio barcut, hwylfyrddio a chaiacio, neu beth am garlamu ar hyd y tywod gydag un o'r ysgolion marchogaeth lleol?

Traethau yn Abertawe a Gŵyr

Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am draethau yn Abertawe a Gŵyr ar wefan Croeso Bae Abertawe.

Diogelwch dŵr ar y traeth

Dewch o hyd i ba draethau a oruchwylir gan achubwyr bywyd, gwybodaeth am faneri diogelwch a llanwau a sut i fod yn achubwr bywyd.

Gweithredwyr Traeth Cymeradwy

Dim ond darparwyr gweithgareddau a gymeradwywyd gan Gyngor Abertawe all weithredu ym Mae Caswell.

Peidiwch â thaflu sbwriel - ewch ag ef adref gyda chi

Mae digonedd o draethau prydferth yn Abertawe, 19 i gyd, ac rydym am i bawb eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn.

Biniau barbeciw ar draethau

Er mwyn gwaredu barbeciwiau'n ddiogel, gan gynnwys glo poeth, mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno biniau gwrth-dân ar draethau sy'n boblogaidd ar gyfer cael barbeciw.
Close Dewis iaith