Banciau bwyd yn derbyn rhodd ffrwythlon diolch i grant afalau
Gall banciau bwyd a grwpiau rhannu bwyd lleol elwa o ragor o afalau'n fuan sydd wedi cael eu casglu gan wirfoddolwyr o berllannau a choed lleol.
Mae Cyngor Abertawe wedi dyfarnu grant gwerth £10,600 i elusen leol sy'n casglu ffrwyth dros ben o goed a pherllannau lleol i'w dosbarthu i'r rheini y mae eu hangen arnynt.
Bydd yr arian yn mynd tuag at astudiaeth dichonoldeb i greu rhagor o gyfleusterau storio afalau fel y gellid storio'r ffrwythau a'u dosbarthu dros amser gan leihau gwastraff a galluogi'r afalau i bara am gyfnod hwy.
Arweinir y fenter gan yr elusen leol Cyfoeth y Coed, a chaiff ei noddi gan Anna Williams o Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe.
Meddai Anna, "Mae gennym dîm gwych o wirfoddolwyr sy'n casglu'r ffrwythau fel y gall pobl y mae angen cymorth arnynt o'u grwpiau rhannu bwyd neu fanciau bwyd lleol fwynhau'r afalau mwyaf ffres a lleol sydd ar gael.
"Does dim angen i chi fod yn berchen ar berllan i helpu ein gwirfoddolwyr. Os ydych chi'n berchen ar gwpl o goed ac mae gennych chi afalau dros ben, gallwch gofrestru gyda ni a byddwn yn trefnu i alw heibio a chasglu'r afalau nad ydych chi am eu defnyddio."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae prosiect Cyfoeth y Coed wedi bod yn fenter wych sy'n ein helpu i fynd i'r afael â'r broblem o wastraff bwyd ac sydd hefyd yn dod â chymunedau at ei gilydd.
Mae fy mhrofiad i â'r prosiect wedi bod yn gadarnhaol iawn, mae'r gwirfoddolwyr wedi casglu gwastraff dros ben o'm gardd llysiau ac afalau a fyddai wedi cael eu gwastraffu fel arall.
Mae wedi bod yn werthfawr ac yn fuddiol gweld yr holl fwyd hwn yn cael ei ddefnyddio. Mae'r tîm yn ymroddedig ac yn gwneud gwaith amgylcheddol arbennig i sicrhau nad oes bwyd da'n cael ei wastraffu. Rwy'n falch iawn o gefnogi'r prosiect arbennig hwn."
Sicrhawyd y grant ar gyfer Cyfoeth y Coed gan dîm Angori Gwledig Cyngor Abertawe gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Cyfoeth y Coed yma https://cyfoeth.org neu gallwch eu dilyn ar Facebook https://www.facebook.com/groups/cyfoeth/
#AngoriGwledig #CFfGDU #CanolfanYrAmgylcheddAbertawe #CyfoethyCoed