Gwybodaeth am Dreth y Cyngor i landlordiaid
Mae pwy sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor yn dibynnu ar ba fath o drefniant gosod rydych wedi'i greu.
Os ydych yn rhentu eiddo cyfan i un person neu deulu, eu cyfrifoldeb nhw yw talu'r dreth gyngor a chaiff bil ei anfon atyn nhw.
Os ydych yn rhentu eiddo cyfan i fwy nag un person, ond eu bod yn gyd-dentantiaid, fel arfer eu cyfrifoldeb nhw yw talu'r dreth gyngor a chaiff bil ei anfon atyn nhw.
Os ydych yn rhentu eiddo i sawl person a bod gan bob un gytundeb tenantiaeth unigol â chi caiff yr eiddo ei ystyried yn Dŷ Amlfeddiannaeth at ddibenion y dreth gyngor. Byddwch chi, fel y landlord, yn gyfrifol am dalu'r dreth gyngor, a chi fydd yn cael y bil.
A yw'r eiddo'n wag wrth i chi chwilio am denantiaid newydd?
Os nad yw'r eiddo wedi'i ddodrefnu, yna byddai wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor. Os yw wedi'i ddodrefnu, bydd rhaid talu Treth y Cyngor. Fel arfer cyfyngir yr eithriadau hyn i 6 mis.