Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Troseddau bywyd gwyllt

Mae deddfwriaeth amrywiol genedlaethol a rhyngwladol sy'n gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd penodol yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2019.

Mae unrhyw un sy'n torri'r cyfreithiau hyn o bosib yn cyflawni trosedd bywyd gwyllt. Gellir darganfod rhagor o wybodaeth am gyfraith amgylcheddol yng Nghymru yn: https://law.gov.wales/cy/yr-amgylchedd.

Mae gan y cyngor bwerau cyfyngedig i orfodi y tu allan i'r system gynllunio, felly os ydych yn meddwl eich bod wedi gweld trosedd bywyd gwyllt, dylid adrodd am hyn i'r heddlu.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r awdurdod rheoleiddio yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth o ddeddfwriaeth amgylcheddol ac mae'n gyfrifol am gyflwyno trwyddedau penodol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys rhai sy'n gysylltiedig â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Trwyddedau Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, trwyddedau morol a thrwyddedau torri coed. Mae CNC yn cynnal asesiad cydymffurfio a, lle bo angen, gall gymryd camau gorfodi ffurfiol: https://naturalresources.wales/about-us/contact-us/report-an-environmental-incident/?lang=cy

Close Dewis iaith