Toglo gwelededd dewislen symudol

Uchelgais a Gweledigaeth ar gyfer Abertawe

Gan weithio drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, mae'r cyngor a'i bartneriaid yn rhannu uchelgais a gweledigaeth ar gyfer Abertawe.

Ein Huchelgais 

  • Dinas unigryw ar lan y môr yw Abertawe. Mae'n ddinas werdd, ddiogel, ofalgar a chyfeillgar, sy'n gwerthfawrogi dysgu a'i gwasanaethau cyhoeddus ac rydym am iddi barhau fel hyn.
  • Mae Abertawe'n ddinas sy'n teimlo'n gryf iawn am ei chwaraeon, ei hanes a'i diwylliant ac mae'r rhain yn werth eu dathlu.
  • Ond rydym hefyd am i Abertawe fod yn lle iachach a thecach, sy'n fwy gweithgar yn economaidd, dinas sy'n cynnig mwy i blant a phobl ifanc.
  • Rydym am gydweithio i wneud Abertawe'n lle gwell a gwella lles cymunedol mewn modd sy'n ddemocrataidd, sy'n cynnwys pawb ac nid yw'n peryglu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

Ein gweledigaeth yw y bydd Abertawe'n ddinas y bydd pobl yn dewis byw a gweithio ynddi ac ymweld â hi sy'n:

  • Manteisio i'r eithaf ar y berthynas drawiadol rhwng ei hardaloedd trefol bywiog a'i chefn gwlad a'i harfordir rhagorol
  • Cefnogi economi gystadleuol a ffyniannus sy'n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer Dinas-ranbarth ehangach Bae Abertawe
  • Cyrchfan canol dinas ffyniannus sy'n cynnig cyfleusterau siopa ardderchog ac yn cefnogi cyfleoedd hamdden a busnes, gan fanteisio i'r eithaf ar ei agosatrwydd at y glannau
  • Hybu cymunedau cynaliadwy penodol, mewn lleoliadau trefol a gwledig, sy'n elwa o ddigon o lety o safon, isadeiledd cefnogi, cyfleusterau cymunedol a chyfleoedd hamdden
  • Dathlu ac yn cadw ei threftadaeth naturiol unigryw a'i hamgylchedd diwylliannol a hanesyddol

Canlyniadau Poblogaeth

I ategu'r weledigaeth hon ar gyfer Abertawe fel lle, mae'r cyngor a'i bartneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol am ganolbwyntio ar y canlyniadau canlynol a rennir drwy Gynllun Un Abertawe; yr amodau rydym yn dymuno eu cael yn ein cymunedau: 

A.  Dechrau da mewn bywyd i blant

B.  Mae pobl yn dysgu'n llwyddiannus

C.  Swyddi da i bobl ifanc ac oedolion

Ch. Safon byw dda i bobl

D.  Mae pobl yn iach, yn ddiogel ac yn annibynnol

Dd.  Lleoedd da i bobl fyw a gweithio ynddynt

Close Dewis iaith