Toglo gwelededd dewislen symudol

Heno ac yn diwrnodau sy'n dod byddwn yn goleuo Neuadd y Ddinas yn las a melyn, lliwiau cenedlaethol gwlad Wcráin.

Bydd yr Hysbysiad o Gynnig ar y cyd isod, a gytunwyd gan grŵp arweinwyr gwleidyddol Cyngor Abertawe, yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 3 Mawrth i'w gymeradwyo.

ukraine flag

"Rydym yn gresynu wrth ryfelgarwch annerbyniol yr Arlywydd Putin yn erbyn pobl Wcráin, sydd wedi dod â rhyfel unwaith eto i gyfandir Ewrop.

Safwn mewn undod â phobl Wcráin.

Mae Abertawe yn adnabyddus fel dinas noddfa ac felly, safwn yn barod i gefnogi unrhyw bobl sy'n cael eu dadleoli yn dilyn y gweithredoedd ofnadwy a gymerwyd gan Arlywydd Rwsia drwy oresgyn gwladwriaeth sofran.

Nid yw ei gamau gweithredu'n parchu rheolau cyfraith ryngwladol neu'r Cenhedloedd Unedig ac mae'n cael ei gondemnio, yn iawn, gan genhedloedd democrataidd ledled y byd.

Byddwn yn cefnogi pob ymdrech i sicrhau datrysiad heddychlon a diplomyddol, ac osgoi gwrthdaro a cholli bywydau."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Mawrth 2022