Gwaith uwchraddio pellach ar ran hardd o'r llwybr arfordirol poblogaidd
Mae cynlluniau ar waith i barhau i uwchraddio un o lwybrau arfordirol mwyaf hardd y DU er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn uwchraddio rhannau o Lwybr Arfordir Gŵyr, sef llwybr 61km sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Tîm Mynediad i Gefn Gwlad y cyngor wedi bod yn targedu rhannau o'r llwybr y mae angen eu huwchraddio, yn ogystal â dargyfeirio rhannau eraill o'r llwybr y mae erydu arfordirol wedi effeithio arnynt.
Mae rhan 450m o'r llwybr wedi'i chwblhau'n ddiweddar rhwng Limeslade a Rotherslade ac mae'n dilyn ymlaen o waith tebyg a wnaed yn yr un ardal lle crëwyd rhan 270m o lwybr hygyrch.
Roedd angen y ddwy ran newydd oherwydd erydu arfordirol ger y llwybrau gwreiddiol.
Nawr mae'r cyngor yn buddsoddi £80,000 ychwanegol i gwblhau'r rhan o'r llwybr o Limeslade i Rotherslade drwy uwchraddio'r rhan 250m sy'n weddill. Bydd y gwaith yn cynnwys arwyneb concrit ehangach sy'n hygyrch, y gall cerddwyr, defnyddwyr cadair olwyn a bygis ei ddefnyddio.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn boblogaidd tu hwnt ac mae'n cael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn.
"Rydym wedi nodi rhan o'r llwybr rhwng Limeslade a Rotherslade yr hoffem fynd i'r afael â hi a'i huwchraddio i'r un safon â'r rhannau eraill gerllaw.
"Mae cyllid ychwanegol sydd ar gael fel rhan o'n rhaglen cynnal a chadw priffyrdd wedi'i sicrhau i'n galluogi i gwblhau'r gwaith hwn eleni ac i sicrhau bod y llwybr yn un o'r rhai gorau o amgylch arfordir Cymru."
Mae 1.5km pellach o lwybr yr arfordir hefyd wedi cael ei wella yn y gorffennol rhwng Bae Caswell a Langland.
Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 lle cysylltwyd 61km o lwybr yr arfordir gyda'i gilydd er mwyn galluogi cerddwyr i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.
Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Rwy'n credu bod gan y rhan o lwybr yr arfordir ar hyd Abertawe a phenrhyn Gŵyr rai o'r golygfeydd mwyaf godidog ar hyd arfordir Cymru. Mae'n syfrdanol o hardd, a byddwn yn annog unrhyw un sydd heb gerdded ar ei hyd eto i fynd yno i brofi'r harddwch."