Ynadon Abertawe'n gorchymyn bod siopau fêps a fu'n gwerthu nwyddau anghyfreithlon yn aros ynghau am gyfnod hwy
Mae ynadon lleol wedi gorchymyn bod wyth o siopau fêps yn Abertawe y gorfodwyd iddynt gau dros dro gan Safonau Masnach y cyngor yn aros ynghau am gyfnod hwy.
Cyflwynodd Cyngor Abertawe hysbysiadau cau dros dro (48 awr) yn erbyn cyfanswm o naw siop ar draws y ddinas fel rhan o ymgyrch dridiau bwrpasol yn erbyn siopau sy'n gwerthu fêps anghyfreithlon a thybaco ffug.
Bu tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe'n arwain ymgyrch Ceecee a Marvel yn ddiweddar gyda chymorth swyddogion Heddlu De Cymru, CThEF, swyddogion Mewnfudo'r Swyddfa Gartref, yn ogystal â thriniwr cŵn sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddod o hyd i dybaco.
Yn ystod y tridiau, targedodd swyddogion gyfanswm o 14 o siopau ar draws y ddinas lle y llwyddwyd i brynu nwyddau anghyfreithlon wrth wneud pryniannau prawf.
Caewyd naw o'r 14 o siopau am 48 awr wrth i'r cyngor wneud ceisiadau am orchmynion llys mewn ymgais i'w cadw ar gau am hyd at dri mis.
Mae ynadon yn y ddinas bellach wedi cymeradwyo'r ceisiadau a wnaed gan y cyngor yn erbyn wyth siop. Ers hynny, mae perchennog y nawfed siop a gaewyd gan y cyngor wedi dewis cau'n barhaol.
Yn ystod y tridiau, arestiodd yr heddlu 11 o unigolion a oedd yn gysylltiedig â'r gwerthiannau anghyfreithlon.
Yn dilyn y cyrchoedd, atafaelwyd 971 pecyn o sigaréts (gwerth ffug o £4,855, gwerth manwerthu o £15,000), 970 pecyn o dybaco rholio â llaw (gwerth ffug o £19,500, gwerth manwerthu o £39,000) a 2,292 o fêps (gwerth £23,000) a byddant bellach yn cael eu dinistrio.
Mae pum cerbyd, a ddefnyddiwyd i storio nwyddau anghyfreithlon ac sy'n gysylltiedig â'r gwahanol siopau, hefyd wedi'u hatafaelu.
Meddai Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol (Perfformiad) yng Nghyngor Abertawe, "Mae'r cyngor hwn yn cymryd gwerthiant fêps anghyfreithlon a thybaco ffug yn Abertawe o ddifrif.
"Mae ein tîm Safonau Masnach wedi rhoi blaenoriaeth i'r mater hwn ac wedi gallu casglu llawer iawn o gudd-wybodaeth o ran pa siopau yn y ddinas sydd wedi bod yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon yn flaenorol i gwsmeriaid, gan gynnwys plant.
"Rwyf wrth fy modd fod ynadon wedi cefnogi ein ceisiadau i ymestyn cyfnodau cau wyth siop yn y ddinas.
"Bydd ymchwiliadau sy'n gysylltiedig ag ystod o droseddau mewn perthynas â gwerthu fêps anghyfreithlon a thybaco ffug yn cael eu cynnal yn awr"
