Perchennog siop yn pledio'n euog i werthu fêps anghyfreithlon
Mae Safonau Masnach Cyngor Abertawe wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn perchennog siop a oedd yn gwerthu fêps anghyfreithlon a sigaréts ffug.

Mae Peshawa Zada, perchennog 23 oed Bob Marley Vapes, St Helen's Road, wedi pledio'n euog i nifer o droseddau sy'n ymwneud â gwerthu fêps anghyfreithlon, sigaréts ffug a thwyll, a chaiff ei ddedfrydu ym mis Ebrill.
Ymwelodd Safonau Masnach â Mr Zada, o St Helen's Road, sawl gwaith, gan ddyddio yn ôl i fis Mawrth 2023, lle roedd swyddogion yn pryderu bod nwyddau fepio anghyfreithlon yn parhau i gael eu gwerthu ac roedd cwynion eu bod yn cael eu gwerthu i blant dan 18 oed.
Yn y DU, ni ellir gwerthu fêps tafladwy â mwy na 2ml o hylif. Drwy ymweliadau â'r siop yn Abertawe, cadarnhawyd bod fêps â 10ml o hylif yn cael eu gwerthu ac fe'u hatafaelwyd gan y cyngor.
Yn ystod yr ymweliad diweddaraf ym mis Mawrth, darganfu swyddogion Safonau Masnach nifer o ardaloedd storio cudd yng nghefn y siop ac yn y nenfwd a oedd yn cynnwys fêps anghyfreithlon, ynghyd â sigaréts ffug.
Cafodd perchennog y siop ei arestio a'i gyhuddo o saith trosedd. Ers hynny, mae wedi pledio'n euog yn Llys Ynadon Abertawe ac mae ar remand yn y ddalfa nes iddo gael ei ddedfrydu fis nesaf.
Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Yn ogystal â thorri'r gyfraith, mae perchnogion siop sy'n gwerthu nwyddau anghyfreithlon â chyfyngiad oed i blant dan oed yn dangos diffyg ymwybyddiaeth o'r canlyniadau a all ddeillio o werthu'r nwyddau hyn i bobl ifanc.
"Mae ein tîm Safonau Masnach wedi parhau â'r gwaith ardderchog y mae eisoes wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, i atal y nwyddau hyn a all beri niwed rhag cael eu gwerthu a chyrraedd dwylo plant ifanc."
Yn 2024, arweiniodd y cyngor ymgyrch gyda'r heddlu (Ymgyrch Thor) i atafaelu fêps anghyfreithlon o gyfleuster storio mawr yn Llundain, gan atafaelu mwy na 120,000 o fêps anghyfreithlon a oedd yn werth £1.5m ar y stryd.
Meddai'r Cyng. Hopkins, "Roedd yr ymgyrch yn llwyddiant mawr o ran atal lif fêps anghyfreithlon i Abertawe. Gwaetha'r modd, rydym yn gwybod bod siopau yn y ddinas yn dal i ymdrechu i werthu'r nwyddau anghyfreithlon hyn, megis fêps a sigaréts ffug.
"Byddwn yn parhau i dargedu'r siopau hyn a chadw cwsmeriaid yn ddiogel."