Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'r amser o'r flwyddyn wedi cyrraedd pan fyddwn yn pleidleisio dros ein hoff fan gwyrdd sy'n derbyn gwobr y Faner Werdd yng Ngwobr Dewis y Bobl.

Gyda'ch pleidlais a'ch cymorth chi, mae Cymru bob amser yn cael enillwyr yn y 10 uchaf, felly dewch i ni weld a allwn ni wneud hynny eto!!

brynmill park green flag cropped

Mae'n gyhoeddusrwydd gwych i'ch man gwyrdd ac os byddwch yn cyrraedd y 10 uchaf, byddwch yn cael baner fawr, a byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i chi ar draws y DU i dynnu sylw at eich llwyddiant.

Dyma'r ffordd i bleidleisio - 

  • Ewch i - Gwobr y Faner Werdd - Gwobr y Faner Werdd
  • Sgroliwch i lawr y dudalen, ewch i'r map o'r DU a chwyddo ar Gymru'
  • Dewch o hyd i'r man gwyrdd/parc yr ydych eisiau pleidleisio amdano a chliciwch ar sgwâr gwyrdd/eicon y safle
  • Cliciwch 'mwy o fanylion' ar yr ochr dde, yna cliciwch ar yr arwydd mawr gwyrdd 'PLEIDLEISIO AM Y SAFLE HWN'

Dim ond unwaith y gallwch bleidleisio am safle o un ddyfais, ond gallech bleidleisio unwaith ar eich ffôn ac unwaith ar eich cyfrifiadur!

Gofynnwch i'ch ffrindiau, teulu a gwirfoddolwyr bleidleisio a rhowch y gair ar led. Y dyddiad cau yw 11 Hydref.

Pob lwc a diolch am bleidleisio

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Medi 2024