Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch â'n tîm gwastraff ac ailgylchu

Os ydych yn gydweithiwr da ac yn awyddus i weithio yn yr awyr agored i gefnogi cymunedau lleol, galwch heibio i sesiwn wybodaeth arbennig a gynhelir yn y Ganolfan Ddinesig ddydd Mawrth 10 Mehefin rhwng 1pm a 4pm.

new waste vehicles

Rydym yn ceisio cryfhau Tîm Casglu Ailgylchu'r cyngor a chyn bo hir byddwn yn hysbysebu swyddi Casglwyr Sbwriel ac Ailgylchu a Gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm.

Bydd swyddogion profiadol o Dîm Rheoli Gwastraff y cyngor ar gael yn y sesiwn galw heibio i roi'r holl wybodaeth y mae ei hangen ar y rhai hynny sy'n bresennol am ymuno â thîm pwysig sy'n cyflawni rôl allweddol yn ein cymunedau.

Os ydych yn meddwl eich bod yn addas ac rydych am wneud eich cymuned yn lle gwell, glanach a gwyrddach, yna galwch heibio ddydd Mawrth. Nid oes angen gwneud apwyntiad.

Gwybodaeth: 

https://www.abertawe.gov.uk/article/38595/Gweithredwr-Sbwriel-ac-Ailgylchu-dyddiad-cau-31122025

https://www.abertawe.gov.uk/article/38591/Cludwr-Gyrwyr-LGV-dyddiad-cau-31122025

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Mehefin 2025