Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Addewid gwrth-fandaliaeth cymhorthion diogelwch dŵr y cyngor

Bydd rhwydwaith o gymhorthion diogelwch dŵr Cyngor Abertawe'n cael eu diogelu ymhellach rhag fandaliaeth sy'n peryglu bywydau'n barhaus.

water safety aid riverside generic

Mae fandaliaid yn dwyn cymhorthion achub o'r glannau neu'n eu taflu i'r dŵr yn ddiangen mewn ardaloedd sy'n cynnwys Marina Abertawe ac afon Tawe.

Nawr, mae synwyryddion electronig newydd arloesol yn cael eu gosod i helpu i gadw'r cymhorthion yn eu lle a rhybuddio Tîm Diogelwch Dŵr y cyngor pan fydd un yn mynd ar goll neu'n cael ei symud.

Mae hyn yn digwydd wrth i'r tîm ddechrau ei ymgyrch haf i annog pobl i fynd i mewn i'r dŵr yn ddiogel - a'i osgoi'n llwyr os ydyn nhw wedi bod yn yfed alcohol.

Anogwyd preswylwyr gan Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd i barhau i roi gwybod i'r heddlu am gymhorthion dŵr sy'n mynd ar goll ac unrhyw un sy'n cael ei weld yn ymyrryd â nhw.

Meddai, "Mae'n drosedd ymyrryd â chymhorthion achub bywyd ac rydym yn edrych ar CCTV i weld a allwn nodi'r rheini sy'n gyfrifol. Caiff unrhyw dystiolaeth ei hanfon yn syth at yr heddlu er mwyn erlyn.

"Mae ein tîm diogelwch dŵr yn archwilio ein rhwydwaith o gymhorthion diogelwch dŵr bob pythefnos ac yn gosod cymhorthion newydd yn lle'r rhai coll o fewn 24 awr i glywed eu bod ar goll.

"Rydym eisoes wedi gosod synwyryddion mewn nifer o leoliadau o amgylch y ddinas ac yn bwriadu gwneud mwy yn y misoedd sy'n dod pan fydd mwy o gyflenwadau o synwyryddion yn cyrraedd. Ond y peth gorau y gall unrhyw un ei wneud yw gadael y cymhorthion diogelwch lle maen nhw heblaw pan fydd eu hangen.

"Mae fandaleiddio'r dyfeisiau hyn yn drosedd am reswm. Nid yw'n drosedd lle nad oes neb yn dioddef ac mae'n peryglu bywydau pobl. Bydd y synwyryddion newydd yn helpu i achub bywydau wrth rybuddio'n timau pan fydd cymorth diogelwch yn mynd ar goll."

Dywedodd fod y cyngor wedi ymuno â gwasanaethau brys eraill i hyrwyddo ymgyrch 'Parchu'r Dŵr' yr haf, y mae'r wefan ar gael yma: https://rnli.org/safety/respect-the-water

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y mae'r RNLI yn gweithredu ar draethau Abertawe a Gŵyr yr haf hwn, ewch i: www.abertawe.gov.uk/diogelwchdwrarytraeth

Os ydych yn sylwi bod cymorth achub bywyd ar goll, dywedwch wrth yr heddlu neu cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Dŵr drwy ffonio 01792 635162 neu e-bostiwch diogelwch.dŵr@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mai 2025