Toglo gwelededd dewislen symudol

Arhoswch yn ddiogel yn y dŵr yr haf hwn

Anogir ymwelwyr a phreswylwyr i aros yn ddiogel ger ein harfordiroedd a'n hafonydd yr haf hwn.

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos gyda'r RNLI a fydd yn darparu achubwyr bywydau ar draethau yn Caswell, Langland/Rotherslade, Bae y Tri Chlogwyn a Phorth Einon/Horton yr haf hwn. Mae gan ddyfrffyrdd fel yr afon Tawe ac ardaloedd y marina yng nghanol y ddinas gymhorthion achub sydd i'w gweld yn amlwg mewn ardaloedd prysur.

O ddydd Llun ymlaen bydd tîm diogelwch dŵr y cyngor yn dechrau ei raglen ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar gyfer yr haf.

Fel rhan o'r fenter bydd y tîm yn ymweld â Lido Blackpill a thraethau prysuraf yr ardal i hyrwyddo diogelwch dŵr a rhoi gwybodaeth a thaflenni Adnabod y Peryglon i blant.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod angen i deuluoedd ac oedolion ifanc - yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn yfed - aros yn ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y mae'r RNLI yn gweithredu ar draethau Abertawe a Gŵyr yr haf hwn, ewch i: www.abertawe.gov.uk/diogelwchdwrarytraeth

Os ydych yn sylwi bod cymorth achub bywyd ar goll, dywedwch wrth yr heddlu neu cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Dŵr drwy ffonio 01792 635162 neu e-bostiwch diogelwch.dŵr@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Gorffenaf 2023