Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun i gefnogi twf addysg Gymraeg yn barod i ymgynghori arno

Bwriedir gofyn i rieni, disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach am eu barn ynghylch cynlluniau i barhau i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn Abertawe.

Swansea Bay

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu cynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y ddinas gan gynnwys ar gyfer plant cyn oed ysgol ac astudiaethau ôl-16 ar gyfer cyrsiau academaidd a galwedigaethol.

Caiff y cynlluniau eu cynnwys yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor y bwriedir iddo helpu Abertawe chwarae ei rhan wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

Yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf mae nifer y disgyblion yn Abertawe sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi dyblu o 2,581 yn 2001 i 5,228 ar ddechrau eleni.

Cefnogwyd hyn gan agoriad tair ysgol gynradd Gymraeg pellach ac un ysgol gyfun Gymraeg ychwanegol, gan ddod â'r niferoedd i 10 a 2 yn eu tro.

Diolch i raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru a ariennir ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru, mae'r swm mwyaf erioed sef £170m yn cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd i wella adeiladau a chyfleusterau ysgolion Cymraeg a Saesneg.

Mae hyn yn cynnwys lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol sy'n cael eu creu gydag agoriad yr adeiladau newydd a gwell ar gyfer YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bydd ystafelloedd dosbarth ychwanegol ar gyfer YGG Bryn y Môr ac YGG y Login Fach yn dilyn a bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda darparwyr cynnar i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg i blant cyn oed ysgol.

Mae'r cynllun hefyd yn nodi sut bydd y cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg y tu allan i'r ysgol a sut bydd yn adeiladu ar y gwaith da sy'n cael ei wneud mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i addysgu'r Gymraeg.

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gytuno ar ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau:

Meddai Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Robert Smith, "Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050 ac mae Abertawe yn awyddus iawn i chwarae ei rhan drwy helpu i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwn.

"Mae nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion wedi cynyddu'n sylweddol ac mae ein cynllun strategol yn nodi sut byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn.

"Yn y cynllun rydym yn cynnwys y ffyrdd niferus eraill y byddwn yn cefnogi twf dwyieithrwydd ac os yw'r Cabinet yn cytuno i'r ymgynghoriad, gobeithiaf y bydd cynifer o bobl â phosib yn mynegi eu barn pan gaiff ei lansio ar ddiwedd mis Medi.

"Wrth hyrwyddo dwyieithrwydd, rydym yn rhoi cyfle i'n holl blant ffynnu yn yr iaith o'u dewis, gan gynyddu eu cyfleoedd bywyd a thrwy ddysgu mwy nag un iaith, hwyluso dysgu ieithoedd eraill."