Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o ardaloedd chwarae i'w creu ar gyfer ein dinas

Mae ardal chwarae newydd sbon ar y gweill ar gyfer West Cross ynghyd â gwaith uwchraddio mewn o leiaf 25 o ardaloedd chwarae eraill ar gyfer cymunedau ar draws Abertawe.

play area west cross

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar ardal chwarae newydd y mis hwn mewn safle ger glan y môr yn West Cross, ac mae gwelliannau i ardaloedd chwarae presennol y cyngor o Fôn-y-maen i Ynystawe hefyd ar y gweill.

Mae cynlluniau ar gyfer prosiectau gwella mewn 12 lleoliad arall eisoes wedi'u cyflwyno i dendr a disgwylir i'r gwaith ddechrau arnynt cyn gynted ag y cytunit ar y trefniadau terfynol. Yn ychwanegol at hyn, clustnodwyd o leiaf naw ardal chwarae arall sy'n eiddo i'r cyngor i'w huwchraddio. 

Y gwaith arfaethedig yw'r rownd ddiweddaraf o welliannau a gynlluniwyd ar gyfer ardaloedd chwarae cymunedol sydd eisoes wedi arwain at welliannau mewn 43 o leoliadau eraill o gwmpas y ddinas dros y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y gwaith yn rhan o ymrwymiad gwerth miliynau o bunnoedd i roi gweddnewidiad i bob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor dros y ddwy flynedd nesaf.

Meddai, "Dangosodd y pandemig pa mor bwysig oedd ardaloedd chwarae awyr agored am ddim i les ein plant a'n pobl ifanc.

"Yn ystod yr argyfwng, daethant yn un o'r ychydig fannau lle gallai plant gadw'n heini'n ddiogel a lle gallai ffrindiau a theuluoedd weld ei gilydd am sgwrs gan gadw pellter cymdeithasol.

"Hyd yn hyn rydym wedi ymrwymo 5 miliwn o bunnoedd i'n cronfa ardaloedd chwarae ac mae cymunedau o Graig-cefn-parc i Gasllwchwr a Melin Mynach wedi gweld y manteision."

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod adborth am y fenter ardaloedd chwarae wedi bod yn gadarnhaol iawn.

"Mae'r rheini sydd wedi elwa hyd yn hyn wedi dweud wrthym faint o wahaniaeth y mae'n ei wneud ac mae eu hymateb ynghyd ag ymateb y plant sy'n dwlu ar y cyfarpar newydd sydd yn eu cymdogaeth wedi annog y cyngor i barhau â'i fuddsoddiad yn y blynyddoedd nesaf.

"Yn West Cross, disgwylir i'r gwaith o adeiladu ardal chwarae newydd ar y maes rhwng Alderwood Road a Mumbles Road i ddechrau ym mis Mehefin a dylai fod yn barod i'w defnyddio tua diwedd gwyliau ysgol yr haf."

Mae'r ardaloedd chwarae newydd neu well sydd wedi bod yn ymddangos ar draws Abertawe yn cynnwys cyfarpar a ddewiswyd mewn cydweithrediad â chymunedau lleol.

Maent yn amrywio o siglenni, llithrennau a rowndabowts traddodiadol i drampolinau, gwifrau gwib a fframiau dringo. Mae cyfleusterau hefyd wedi'u cyflwyno ar gyfer plant ag anableddau.

Mae'r safleoedd hynny sydd eisoes wedi derbyn ardaloedd chwarae newydd neu well yn cynnwys Mayhill, Uplands, Llansamlet, Gorseinon, Gelli Aur, Heol Frank, Parc Ravenhill, Weig Fawr, Cwmbwrla a Pharc Coed Bach.

Mae'r lleoedd hynny lle mae prosiectau gwella ar y gweill yn cynnwys Garnswllt, Heol Tir Du yn Nhreforys, Parc Dynfant a Dôl Dynfant, Brooksby Road a Pharc Bôn-y-maen ym Môn-y-maen, lle chwarae Pwynt Abertawe, Parc Maesteg yn St Thomas, Parc yr Hafod a lle chwarae Highmead yn y Mwmbwls.

Close Dewis iaith