Toglo gwelededd dewislen symudol

Blodau gwyllt lliwgar yn dod i Abertawe yr haf hwn

Bydd cymunedau'r ddinas yn mwynhau toreth o liwiau yr haf hwn o ganlyniad i gynllun plannu blodau gwyllt y cyngor.

wild flowers daisy 1

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r cyngor wedi denu pryfed sy'n peillio i ymylon y ffyrdd, cylchfannau, parciau a thir garw trwy adael i'r gwair dyfu'n hir mewn mannau dethol, sy'n galluogi blodau gwyllt i dyfu a thrwy blannu gwelyau blodau ffurfiol gyda chymysgedd lliwgar o flodau.

Mae'r cynllun yn mynd cam ymhellach yn awr trwy gyflwyno blodau gwyllt mewn dwsin o leoliadau ar draws y ddinas a fydd yn parhau i flodeuo flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Plannwyd hadau a ddewiswyd yn arbennig o ddolydd blodau gwyllt Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin yr hydref hwn yn barod ar gyfer yr haf hwn ac am flynyddoedd i ddod.

Mae'r fenter yn ychwanegol at y gwaith plannu blodau blynyddol sydd newydd ddechrau mewn tua 190 o leoliadau ar draws Abertawe a fydd yn dod yn fwy lliwgar o lawer yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst.

Mae'r fenter yn rhan o ymrwymiad y cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth trwy hyrwyddo bywyd planhigion a phryfed, sy'n cynnwys ffyrdd newydd o dorri gwair er mwyn annog peillwyr a pharciau ac ymylon ffyrdd sy'n amgylcheddol iach.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y cyngor yn flaenllaw o ran rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o hyrwyddo blodau gwyllt a bioamrywiaeth ar draws cymunedau'r ddinas.

Meddai, "Rydym yn gweithio ar y cyd â'n Tîm Cadwraeth Natur a sefydliadau eraill i greu hafanau newydd i bryfed a blodau gwyllt brodorol oherwydd bod pobl wedi bod yn gofyn i ni wneud hynny."

"Mae pobl yn dwlu ar fenter lachar a siriol y blodau gwyllt, ond mae rhai pobl am weld mwy o rywogaethau brodorol. Er nad ydynt mor lliwgar â mathau eraill o flodau gwyllt, mae'r rhywogaethau brodorol yn gofalu amdanynt eu hunain."

"Does dim angen llawer o waith cynnal arnynt, maent yn tyfu bob blwyddyn ac maent yn cynnal pryfed gwyllt hefyd. Dyna'r rheswm pam rydym yn arbrofi mewn lleoliadau gwahanol, gan gynnwys Carmarthen Road, Oystermouth Road, Parc Menter Abertawe a'r Vetch yn ogystal ag mewn lleoliadau mwy gwledig fel Pennard."

"Rydym yn cael ein hadau o'r Ardd Fotaneg Genedlaethol gan ein bod yn gwybod mai hadau a dyfwyd yng Nghymru ydyn nhw."

Mae'r prosiectau blodau gwyllt yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen torri gwair 'torri a chasglu' y cyngor mewn parciau, ar ymylon ffyrdd ac mewn mannau eraill, sydd hefyd yn annog bioamrywiaeth yn ein cymunedau.

Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Mae ein hymagwedd newydd at dorri gwair yn ogystal â'r hyn rydym eisoes yn golygu manteision o'r naill du a'r llall gan ei fod yn annog cynnal llystyfiant sy'n llawn rhywogaethau gwahanol mewn parciau ac ar ymylon ffyrdd. Mae hefyd yn arafu dŵr glaw, yn helpu i amddiffyn rhag llifogydd ac yn tynnu llygryddion o'r awyr.

"Y peth gorau amdani yw ein bod yn torri'r gwair ddwywaith yn ystod y tymor ar adegau penodol fel y gall y blodau gwblhau eu cylchoedd bywyd a gwasgaru eu hadau'n barod ar gyfer y tro nesaf.

"Mae dull hwn o dorri'n llai aml ac yn hwyrach mewn ardaloedd glaswelltog yn ailgyflenwi'r banc hadau, yn adfer amrywiaeth blodeuol ac yn creu cynefin i beillwyr ar draws y sir."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cynllun gyda chyllid grant ar gyfer offer torri gwair arbenigol a pheiriannau newydd. Mae'n torri ac yn casglu gwair ar yr un pryd ac yn symud llystyfiant sydd wedi marw er mwyn gadael i awyr iach a glaw fynd i'r pridd fel bod gan yr hadau le i egino.

I ddarganfod rhagor am sut mae'r rhaglen torri a chasglu gwair yn helpu i annog bioamrywiaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/torriachasglu

I ddarganfod rhagor am ein rhaglenni plannu blodau gwyllt, ewch yma: www.abertawe.gov.uk/BlodauGwyllt

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mehefin 2022