Ydych chi'n adnabod unrhyw un a allai elwa o'r Cynllun Iawndal Windrush?
Os felly, mae'r Swyddfa Gartref yn trefnu sesiynau gwybodaeth ar-lein i bobl yng Nghymru.
Cynhelir yr un nesaf ar 5 Ebrill.
Nod y digwyddiadau hyn yw cynyddu ymwybyddiaeth o'r Cynllun Windrush a'r Cynllun Iawndal Windrush ymhlith cymunedau ar draws gwledydd y Gymanwlad. Mae'r sesiynau wedi'ucynllunio'n benodol ar gyfer unigolion a chymunedau yr effeithir arnynt, nid oes ganddynt fawr ddim gwybodaeth, os o gwbl, am y Cynlluniau Windrush na sut i wneud cais.
Dydd Mawrth 5 Ebrill 2022, 11am i 1pm
Cyfeirnod Zoom: 827 5276 4364
Cyfrinair: 187542
Slido: #GwybodaethAmWindrush
Dolen i'r wefan: https://www.gov.uk/guidance/windrush-engagement-events
Bydd y rheini sy'n bresennol yn gallu cyflwyno cwestiynau am y Cynllun Windrush a Chynllun Iawndal Windrush drwy Slido cyn y sesiwn. Bydd panel o gynrychiolwyr y Swyddfa Gartref yn ceisio ateb y cwestiynau a gyflwynwyd yn gynharach yn ystod rhan drafod y sesiwn.