Toglo gwelededd dewislen symudol

Peidiwch â cholli'ch cyfle i hawlio grant tanwydd gaeaf gwerth £200

Mae miloedd o deuluoedd ar draws y ddinas wedi elwa o grant tanwydd gaeaf annisgwyl gwerth £200 sydd ar gael i'w helpu i ymdopi â chost prisiau cynyddol.

swansea from the air1

Ond gyda'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ychydig ddiwrnodau i ffwrdd yn unig, gofynnir i unrhyw un nad yw wedi gwneud cais eto wneud hynny cyn gynted â phosib.

Mae'r grant sydd ar gynnig drwy Gyngor Abertawe ar gyfer aelwydydd lleol sydd dan bwysau wrth geisio rheoli biliau tanwydd cynyddol yng nghanol argyfwng costau byw.

Hyd yn hyn mae dros 12,500 o geisiadau wedi'u derbyn ac mae taliadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosib bob dydd, gyda £2.5 eisoes wedi'i dalu yn Abertawe. Ond y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y grant gan Lywodraeth Cymru yw dydd Llun, 28 Chwefror.

Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn: https://www.abertawe.gov.uk/CymorthTanwyddGaeaf

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n newyddion da bod cynifer o bobl sydd â'r hawl i'r taliad hwn wedi gwneud cais amdano. Ond mae'n hanfodol bod unrhyw un arall sy'n teimlo y gallai fod yn gymwys yn gwneud cais cyn y dyddiad cau sef dydd Llun.

"Ar adegau pan fo cost hanfodion fel bwyd a thanwydd yn cynyddu'n gyflym, bydd y £200 ychwanegol hwn yn helpu nifer o deuluoedd ac aelwydydd i gael deupen llinyn ynghyd."

Mae Grant Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru ar gael i bobl sengl neu gyplau sy'n derbyn budd-daliadau fel credyd cynhwysol, cymhorthdal incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm.

Dylai preswylwyr sy'n derbyn unrhyw un o'r lwfansau hyn hefyd ystyried wneud cais am ostyngiad Treth y Cyngor os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/budd-daliadau

Close Dewis iaith