Toglo gwelededd dewislen symudol

Ydych chi'n gymwys am grant tanwydd y gaeaf o £200?

Mae miloedd o deuluoedd yn y ddinas yn cael eu hannog i wneud cais am eu taliadau cymorth tanwydd gaeaf ar unwaith ar ôl i Lywodraeth Cymru ddyblu'r swm y bydd yn ei dalu i ymgeiswyr cymwys i £200.

swansea from the air1

Amcangyfrifwyd y bydd tua 30,000 o aelwydydd yn Abertawe yn gallu hawlio'r taliad i helpu i ddelio â chost gynyddol nwy a thrydan ar y grid y gaeaf hwn.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru'n golygu y bydd unrhyw un sydd eisoes wedi derbyn taliad cychwynnol o £100 tuag at ei filiau tanwydd yn cael £100 arall yn awtomatig, ac ni fydd rhaid cyflwyno cais arall. Mae'r cyngor yn bwriadu talu'r £100 ychwanegol dros y pythefnos nesaf.

Ond dylai unrhyw un sydd heb gael y taliad gan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ac sy'n meddwl ei fod yn gymwys wneud cais cyn i'r cynllun gau ar 28 Chwefror.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, y gall y rheini sy'n talu biliau wneud ceisiadau am y taliad nawr ar wefan y cyngor a byddai'r rheini sy'n gymwys i gael y grant yn cael eu talu cyn gynted â phosib. Mae bron 11,000 o breswylwyr eisoes wedi manteisio ar y cynllun.

Meddai, "Rydyn ni i gyd yn gwybod mai'r gaeaf yw'r amser anoddaf ar gyfer biliau tanwydd ac eleni mae'r her wedi bod hyd yn oed yn fwy i deuluoedd gweithgar sy'n ei chael hi'n anodd, oherwydd y cynnydd cyffredinol yng nghost tanwydd.

"Dyna pam rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn i sicrhau y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu cyn gynted â phosib, i'w helpu i fynd i'r afael â'r costau byw cynyddol.

"Ni ddylai teuluoedd byth fod mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt ddewis rhwng talu biliau tanwydd cynyddol neu roi bwyd ar y bwrdd, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn gwneud cais am y grant. Os nad ydynt yn gwneud hynny, ni allwn eu talu."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Drwy'r pandemig mae Cyngor Abertawe wedi bod yno i bobl Abertawe, gan weithio ochr yn ochr â busnesau, cymunedau a theuluoedd, a'u cefnogi drwy'r amserau digynsail hyn.

"Bydd y Taliad Cymorth Tanwydd Gaeaf yn llinell fywyd go iawn i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, ac rydym yn annog y rheini sy'n credu eu bod yn gymwys i gyflwyno'u cais cyn gynted â phosib."

O dan y cynllun, ystyrir bod aelwyd yn gymwys os oes gan yr unigolyn sy'n gorfod talu am y tanwydd ar y grid ar gyfer ei gartref, neu ei bartner, hawl i Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol, Credydau Treth Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Rhaid cyflwyno cais am y taliad erbyn ganol nos ar 28 Chwefror, 2022 er y bydd unrhyw un sydd eisoes wedi derbyn y taliad gwreiddiol o £100 yn derbyn taliad ychwanegol o £100 yn awtomatig ac ni fydd angen cyflwyno cais arall.

Mae'r ffurflen gais ar-lein ar gael ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/CymorthTanwyddGaeaf. Mae unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais am Daliad Cymorth Tanwydd Gaeaf, p'un a anfonir gwahoddiad iddo hawlio'r taliad ai peidio, yn gallu'i ddefnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth am y Taliad Cymorth Tanwydd Gaeaf, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael yma: www.abertawe.gov.uk/CymorthTanwyddGaeaf

 

Close Dewis iaith