Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhowch gynnig ar Bwll Cenedlaethol Cymru am £12

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe'n annog pobl i roi cynnig ar nofio mewn pwll nofio maint Olympaidd fel trît ar gyfer y flwyddyn newydd.

Wales National Pool

Mae'r pwll yn y ddinas yn gartref i athletwyr elît fel Dan Jervis, a fu'n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Paris yn yr haf. Mae hefyd yn lle i bobl sydd am osod eu huchelgeisiau eu hunain a gwella'u ffitrwydd neu fwynhau amser gyda ffrindiau.

Mae'r pwll bellach yn cynnig pythefnos o nofio am gost isel o £12 i bawb sydd am roi cynnig arno am y tro cyntaf.

Gellir prynu'r cynnig £12 am bythefnos trwy gydol mis Rhagfyr a bydd y cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod cyntaf y mae'n cael ei actifadu. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anrheg i lenwi hosan i ffrind neu fel anrheg gynnar wych i'ch hun ar gyfer y flwyddyn newydd.

Mae'r cynnig yn rhoi'r cyfle i nofwyr ymuno mewn sesiynau nofio mewn lôn, nofio hamdden neu nofio i'r teulu am gyfnod o 14 diwrnod.

I ddarganfod mwy am y cynnig nofio am bythefnos am £12 ac i gael mwy o wybodaeth am aelodaeth, e-bostiwch wnp@swansea.ac.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Rhagfyr 2024