Toglo gwelededd dewislen symudol

Gredwch chi fyth pa fargeinion sydd ar gael yn siop Trysorau'r Tip!

Mae hoff siop ailddefnyddio Abertawe, Trysorau'r Tip yn Llansamlet, wedi bod yn destun estyniad a gwaith adnewyddu er mwyn iddi gynnwys adrannau newydd ar gyfer cynnyrch pren a ailddefnyddiwyd a dillad dylunwyr.

recycling tip treasures wood

Gall siopwyr sy'n ymweld â'r lleoliad poblogaidd yng nghanolfan ailgylchu Llansamlet ddod o hyd i ddillad ail-law enwau brand sydd wedi'u hadfer yn ofalus, ymhlith llawer o fargeinion eraill.

Yn ogystal â hynny, bydd y siop hefyd yn ymestyn ei hamrywiaeth o gelfi o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ardal ailgylchu newydd sy'n ailddefnyddio deunyddiau a allai fel arall gael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, fod Trysorau'r Tip wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddi ailagor wrth i Abertawe adfer yn dilyn y pandemig.

Meddai, "Fel gyda nifer o gynghorau eraill, mae Clefyd Coed Ynn wedi gorfodi'r cyngor i gael gwared ar y coed y mae'r clefyd hwn yn effeithio arnynt.

"Ond bydd rhai o'r coed hyn yn cael bywyd newydd yn siop Trysorau'r Tip gan fod ein tîm yn ailddefnyddio peth o'r pren i greu meinciau, planwyr, arwynebau gwaith ac wynebau byrddau i'w gwerthu yn y siop. Mae'n werth cael cip arnynt."

Caiff celfi eraill, gan gynnwys soffas, cadeiriau a byrddau, eu hailddefnyddio, eu hadnewyddu a'u gwerthu yn hytrach na'u taflu yn y safle tirlenwi.

Meddai'r Cyng. Thomas, "Gall pawb elwa o fenter Trysorau'r Tip am ein bod yn lleihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a gall preswylwyr brynu eitemau o safon am brisiau rhesymol.

"Yn ystod cyfnod lle mae COP26 ar ddod, sef cynhadledd newid yn yr hinsawdd a gynhelir ym Mhrydain yr haf hwn, mae pobl Abertawe'n ein helpu i chwarae ein rhan drwy roi eitemau i siop Trysorau'r Tip."

Mae'r nwyddau trydanol sydd ar gynnig hefyd yn cynnwys consolau gemau, setiau teledu sgrîn fflat, sugnwyr llwch ac offer pŵer, y mae pob un ohonynt wedi'i adnewyddu ac wedi derbyn profion PAT cyn ei roi ar werth.

Mae'r siop ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm bob dydd ac mae'n cynnig amrywiaeth o feiciau, offer gardd ac offer ymarfer corff a chwaraeon.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021