Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahardd ar gŵn Bully XL - Deddf Cŵn Peryglus 1991

Mae'r math o frîd XL Bully wedi'i ychwanegu at y rhestr o gŵn sydd wedi'u gwahardd o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.

O 1 Chwefror 2024, bydd yn drosedd bod yn berchen ar gi Bully XL yng Nghymru a Lloegr, oni bai fod gan y perchennog Dystysgrif Eithrio.

Mae Defra wedi llunio arweiniad ar y gwaharddiad ar gŵn Bully XL.

Adnabod mathau o Bully XL

Mater i'r perchennog neu geidwad y ci yw nodi a yw'n credu y gall ei gi ddod o fewn terfynau'r brîd.

Argymhellir y dylid mabwysiadau ymagwedd ragofalus. Os yw perchennog yn ansicr a yw ei gi yn gi Bully XL neu a all unrhyw un o'i gŵn bach dyfu i fyny i fod yn gi o'r math hwn, dylai gydymffurfio â'r gofynion a'r cyfyngiadau perthnasol wrth iddynt ddod i rym.

Er mwyn i gi gael ei ystyried yn gi Bully XL, rhaid iddo fodloni'r mesuriadau taldra gofynnol a nodir yn y diffiniad swyddogol.

Os yw'r perchnogion o'r farn bod eu ci yn bodloni'r mesuriadau taldra gofynnol a bod ganddo gyfran sylweddol o'r nodweddion ffisegol a nodir yn y diffiniad swyddogol, gall eu ci fod o fewn cwmpas y gwaharddiad. Mae hyn yn cynnwys os na chafodd y ci ei werthu fel ci Bully XL.

Ni fydd disgwyl i swyddogion gorfodi awdurdodau lleol ddosbarthu'n ffurfiol y math o gŵn tebyg i Bully XL a amheuir sy'n dod i'w gofal.

Fel sy'n wir am fathau presennol o fridiau sy'n cael eu gwahardd, disgwylir i'r heddlu fod yn brif asiantaeth orfodi a bydd yn ymchwilio i droseddau o dan Adran 1 Deddf Cŵn Peryglus 1991. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu mathau o fridiau Bully XL a amheuir yn swyddogol o fewn troseddau Adran 1.

Close Dewis iaith