Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Gorymdaith y Nadolig Siôn Corn yn nesáu!

Bydd Siôn Corn yn dychwelyd i Abertawe unwaith eto eleni ar gyfer ei orymdaith draddodiadol sy'n nodi dechrau cyfnod yr ŵyl.

Swansea Christmas Parade

Cynhelir yr orymdaith AM DDIM yng nghanol y ddinas, a drefnir gan Gyngor Abertawe, nos Sul 19 Tachwedd - 5 wythnos yn union cyn y diwrnod mawr.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Victoria Road am oddeutu 5pm, cyn iddi deithio drwy ganol y ddinas i Ffordd y Brenin.

Bydd Siôn Corn yn cynnau goleuadau Nadolig canol y ddinas wrth iddo fynd heibio; yn Sgwâr y Castell ac eto y tu allan i Westy'r Dragon ar Ffordd y Brenin.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies,  "Y Nadolig yw un o adegau pwysicaf y flwyddyn i ganol y ddinas.

"Mae'r cyffro eisoes yn dechrau cynyddu gan fod bellach llai na dau fis tan yr orymdaith. Bydd gennym rai cyhoeddiadau manylach dros yr wythnosau nesaf.Gall y degau ar filoedd o ymwelwyr a fydd yno ar y diwrnod fod yn sicr o brynhawn a noson wych unwaith eto eleni."

Cynhelir Gorymdaith y Nadolig Abertawe 2023 o 5pm ar 19 Tachwedd. Bydd y llwybr yn dechrau ar Victoria Road cyn mynd tuag at Princess Way, Caer Street, Castle Street a'r Stryd Fawr, yna Alexandra Road, cyn mynd ar hyd Orchard Street ac ar hyd Ffordd y Brenin.

Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein i www.joiobaeabertawe.com.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Hydref 2023