Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorymdaith y Nadolig - yr hyn y mae angen i chi ei wybod i gynllunio ymlaen llaw ajoio'rdigwyddiad

Mae pobl sy'n edrych ymlaen at fynd i Orymdaith y Nadolig yn Abertawe eleni'n cael eu hannog i gynllunio o flaen llaw ar gyfer y digwyddiad nos Sul 17 Tachwedd

Xmas Parade 2021

Disgwylir i filoedd fwynhau'r digwyddiad am ddim a drefnir gan Gyngor Abertawe a fydd yn cynnwys cymysgedd bywiog o grwpiau cymunedol lleol, difyrwyr proffesiynol trawiadol, bandiau gorymdeithio, cerbydau sioe hudol, cymeriadau ffilm lliwgar ac offer chwyddadwy Nadoligaidd, a byddant yn ymuno â Siôn Corn i gynnau goleuadau Nadolig disglair canol y ddinas.

Mae'r Cyngor yn annog y rheini sy'n bwriadu dod i'r digwyddiad wirio'r trefniadau ymlaen llaw gan y bydd rhai ffyrdd ar gau er mwyn caniatáu i'r orymdaith ddechrau am 5pm.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies, "Mae dyfodiad Siôn Corn i Abertawe i gynnau goleuadau'r Nadolig yn ddechrau gwych i dymor yr ŵyl ac rydym yn bwriadu creu awyrgylch carnifal go iawn yn llawn goleuadau, cerddoriaeth a dawnsio.

"Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod yr orymdaith yn ymdeithio'n ddiogel drwy ganol y ddinas, bydd angen cau rhai ffyrdd o 4pm ac rydym yn cynghori pobl i gynllunio ymlaen llaw a cheisio cyrraedd yn gynnar i osgoi colli dechrau'r orymdaith am 5pm."

Bydd newidiadau i draffig ffyrdd yn cynnwys dargyfeiriadau oddi wrth ffyrdd fel Quay Parade, Oystermouth Road, Princess Way, Y Stryd Fawr, Orchard Street a Ffordd y Brenin. Bydd Victoria Road a Quay Parade ar gau dros dro i'r ddau gyfeiriad o New Cut Road i Princess Way o oddeutu 4pm nes bod yr orymdaith wedi mynd heibio. Bydd arwyddion i ddangos y dargyfeiriadau.

Bydd mannau parcio ar gael mewn sawl lleoliad yng nghanol y ddinas, a gall ymwelwyr fanteisio hefyd ar gynnig bysus am ddim Abertawe ddydd Sul. Bydd angen i deithiau yn ôl ddechrau erbyn 7pm i fod yn gymwys i deithio am ddim.

I'r rheini sy'n dewis Parcio a Theithio, bydd safle Fabian Way yn gweithredu, a gellir parcio yno drwy'r dydd am £1 y car, ar gyfer hyd at un oedolyn a phedwar plentyn. Bydd bysus yn gadael Fabian Way bob 15 munud o 2pm tan 5.15pm ac yn dychwelyd ar ôl yr orymdaith o 6pm tan 8pm.

Mae hwn yn gyfle gwych i fwynhau mwy o amser yng nghanol y ddinas i gefnogi siopau, caffis ac atyniadau lleol yn y cyfnod cyn yr orymdaith.

Drwy gydol yr orymdaith bydd synau uchel, goleuadau sy'n fflachio ac effeithiau arbennig. Cynghorir y rheini sydd am gael rhywle mwy tawel i'w gwylio ar ben St Helen's Road o Ffordd y Brenin neu ar ben uchaf Y Stryd Fawr ac Orchard Street. Bydd man gwylio hygyrch ar Princess Way ac Orchard Street.

Bydd yr orymdaith yn dechrau am 5pm o Victoria Road, ac yn ymdeithio i Sgwâr y Castell lle bydd Siôn Corn, o'i gar llusg, yn cynnau rhai o oleuadau Nadolig canol y ddinas. Bydd yr orymdaith yn parhau ar hyd Y Stryd Fawr, i lawr Orchard Street ac ar hyd Ffordd y Brenin, lle bydd Siôn Corn yn cynnau gweddill y goleuadau Nadolig cyn i'r orymdaith ddod i ben ar ben gorllewinol Ffordd y Brenin.

Er mwyn gwasgaru rhywfaint o hud y Nadolig yn yr orymdaith, bydd Siôn Corn yn cael cwmni Brownis 1af Cwmbwrla, wedi'u gwisgo fel tylwyth teg gydag anifeiliaid y coetir goleuedig; Tiny Toes Ballet, wedi'u lapio fel anrhegion Nadolig gyda goleuadau llachar a chlymau; a Theatr Gymunedol Parc Sgeti a fydd yn dilyn thema pantomeim adnabyddus gyda chorrach o'r enw Sprout yn gwmni i Eira Wen.

Cadwch lygad am blant Mellin Theatre Arts, ysgol theatr leol â'i chanolfan yn Theatr y Grand Abertawe, a fydd hefyd yn ymuno yn yr hwyl ochr yn ochr â Fferm Gymunedol Abertawe a'u 'Ffermwyr Nadoligaidd' a fydd yn cario llusernau anifeiliaid wedi'u gwneud o helyg, a bydd
Eglwys St Thomas, sy'n gwneud llawer i helpu a chefnogi pobl sy'n agored i niwed drwy ei banc bwyd a'i lloches nos yn 'oleuni yn y tywyllwch'.

Peidiwch â cholli Trên Bach Bae Abertawe a gaiff ei weddnewid ar gyfer ei ymddangosiad arbennig yn yr orymdaith gydag ychydig o gymorth gan Dîm Y Cynnig Gofal Plant i Gymru Abertawe. Meddai cynrychiolydd o'r tîm, sy'n falch iawn o fod yn cefnogi trên bach y bae yng Ngorymdaith y Nadolig, "Mae'r cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad hwn yn annog y gynulleidfa i ymwneud yn gadarnhaol â rheini a gofalwyr â phlant ifanc."

Nodwedd newydd eleni fydd cerflun iâ o gar llusg Siôn Corn yn Sgwâr y Castell. Caiff ei gerfio yn ystod y dydd a bydd yn olygfa ddifyr i siopwyr sy'n cerdded heibio. Dylai fod wedi cael ei orffen erbyn 3pm, gan olygu y bydd amser i dynnu hunluniau cyn yr orymdaith.

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Mae Gorymdaith y Nadolig Abertawe'n ddigwyddiad cymunedol ac mae'n dda gweld cynifer o grwpiau gwahanol o bob rhan o'r ddinas yn cymryd rhan, ac yn rhannu eu llawenydd er mwyn i bawb fynd i hwyl yr ŵyl."

I gael gwybod mwy am Orymdaith y Nadolig Abertawe, gan gynnwys yr holl wybodaeth am barcio a theithio, ewch ar-lein iwww.croesobaeabertawe.com

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Tachwedd 2024